Hydref Glân

10 Medi 2020
Ymunwch â Hydref Glân Cymru Cadw Cymru'n daclus a dewch i fod yn rhan o'r gwaith casglu.
Ar ôl gohirio Gwanwyn Glân Cymru ym mis Mawrth, rydym yn galw ar holl breswylwyr a chymundau i wneud eu rhan ac ymuno mewn casgliad sbwriel yr Hydref a gynhelir rhwng 11 - 27 Medi.
Bydd Hydref Glân Cymru yn wahanol i'r ymgyrchoedd glanhau arferol. Er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw'n ddiogel ac yn iach, rydym yn annog unigolion a chartrefi i lanhau'r strydoedd, parciau neu draethau ar drothwy eu drws.
Mae'n rhan o'r Ymgyrch Glanhau Mis Medi Prydain Fawr fydd yn digwydd ar draws y DU ar yr un pryd.
Mae'n ymddangos bod pobl, nawr yn fwy nag erioed, yn cydnabod pa mor bwysig yw amgylchedd glân a diogel i'w hiechyd a'u lles. Mae rhwystredigaeth wedi bod hefyd o ran y cynnydd mewn sbwriel ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio ac y gallai fod wedi cael ei ailgylchu'n hawdd.
Mae Hydref Glân Cymru yn gyfle i ni gyd sefyll a datgan nad yw sbwriel yn dderbyniol.
"Rydym yn gwybod cymaint y mae cymunedau Powys yn poeni am yr amgylchedd yn ein sir hardd, felly rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â Cadw Cymru'n Daclus eto eleni mewn ymgais i annog preswylwyr i ymuno ag ymgyrch Hydref Glân Cymru." Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff.
P'un ai eich bod yn gwneud pum munud tra'n cerdded y ci neu bum awr - gall pob gweithred unigol wneud gwahaniaeth.
Sut i gymryd rhan:
1. Trefnwch ymgyrch glanhau preifat ar gyfer eich cartref yn eich ardal leol
2. Gwnewch addewid i gynnal eich ymgyrch glanhau eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth am Hydref Glan Cymru a sut i gymryd rhan yn ddiogel, ewch i https://www.keepwalestidy.cymru/cy