Gweinidog yn cydnabod cynnydd y Bwrdd Gwella

14 Medi 2020
Yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae gwelliannau sylweddol o fewn gwasanaethau allweddol Cyngor Sir Powys yn golygu nad oes angen bwrdd gwella allanol bellach.
Bydd Bwrdd Gwella a Sicrwydd a sefydlwyd ym mis Ionawr 2018 i gefnogi'r cyngor sir yn cael ei ddisodli gan fwrdd gwella dan arweiniad y cyngor a threfniadau craffu sydd wedi'u hatgyfnerthu yn dilyn arolwg annibynnol cadarnhaol.
Cafodd y Bwrdd Gwella ei gomisiynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn arolwg gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ACGCC) ar Wasanaethau Plant, gyda chyn Prif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe, Jack Straw, fel ei gadeirydd annibynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys; "Mae'n rhoi pleser mawr i ni fod yr arolwg yn cydnabod y gwelliannau arwyddocaol a ddangoswyd gan y cyngor ac yn hyderus yn ein gallu i gynnal y cynnydd. Mae'r newyddion i'w groesawu'n fawr ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff ar draws y cyngor.
"Mae ein dyled yn fawr i Jack Straw ac aelodau'r Bwrdd Gwella a Sicrwydd am eu cefnogaeth a chyfarwyddyd ar ein taith i wella. Mae'r cyngor wedi cymryd camau breision o fewn meysydd allweddol, ond rydym yn gwerthfawrogi fod llawer iawn mwy i'w wneud. Rydym yn benderfynol o barhau i wella er budd defnyddwyr gwasanaethau led led y sir."
Roedd yr arolwg yn canmol Cabinet ac Arweinwyr Gweithredol, proses gynllunio strategol a rhaglen drawsnewid uchelgeisiol y cyngor.
"Dylid canmol y Cyngor, y Bwrdd Gwella a Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae llawer iawn mwy i'w wneud o hyd ond mae'r Cyngor mewn sefyllfa llawer cryfach i yrru ymlaen gyda'i welliannau ei hunan," oedd casgliad yr adroddiad.
Yn dilyn yr arolwg, ysgrifennodd Julie James AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros faterion Tai a Llywodraeth Cymru, at Arweinydd y cyngor sir ym mis Gorffennaf yn canmol gwaith y bwrdd a'r cyngor o ran y gwelliannau.
"Rwyf yn eich canmol chi, eich Cyngor a'r Bwrdd Gwella a Sicrwydd am y cynnydd sylweddol a wnaed yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwyf yn dymuno'n dda i chi ar eich taith gwella dan arweiniad y Cyngor," dywedodd yn y llythyr at yr Arweinydd.