Adeiladu cyfleuster blynyddoedd cynnar Cymraeg newydd

15 Medi 2020
Bydd cyfleuster newydd gwerth £2m yn cael ei adeiladu yn ne Powys i ateb y galw cynyddol am addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg.
Bydd yr adeilad newydd pwrpasol yn cael ei adeiladu ar safle Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr, ysgol gynradd Gymraeg yng Nghwmtwrch Isaf, gyda lle i 120 o blant trwy'r cynnig gofal plant, Dechrau'n Deg a blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr adeilad yn cael ei adeiladu trwy nawdd gan Lywodraeth Cymru a gafodd ei sicrhau gan Gyngor Sir Powys.
Mae'r gwaith adeiladu i ddechrau ar ddiwedd y mis (Medi) gan y cwmni adeiladu o Lanelli, Morganstone.
Ar hyn o bryd, mae'r lleoliad blynyddoedd cynnar presennol, Dechrau Disglair, o fewn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr a agorodd yn 2012 fel ysgol Gymraeg lwyddiannus.
Ond erbyn hyn mae'r ysgol yn llawn ac mae'r galw'n cynyddu am ddarpariaeth Gymraeg yn yr ardal.
Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu fel bloc ar wahân ar safle'r ysgol a bydd yn cynnwys cyfleusterau Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg a thair ystafell ddosbarth ychwanegol i'r Cyfnod Sylfaen.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Un o nodau'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella mynediad at ddarpariaeth Gymraeg ar draws y cyfnodau allweddol. Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu ni wireddu'r nod."
"Mae yna alw uchel am addysg Gymraeg yn y rhan yma o Bowys, ond mae Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr yn llawn ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys.
"Nid yn unig y bydd y datblygiad hwn yn creu cyfleuster pwrpasol i flynyddoedd cynnar ond bydd hefyd yn rhyddhau lle o fewn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr yn ogystal â sicrhau pontio hwylus rhwng y blynyddoedd cynnar a'r ysgol gynradd."