Dweud eich dweud ar bremiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor

17 Medi 2020
Mae gwahoddiad i berchnogion a'r cyhoedd ehangach i ddweud eu dweud ar daliadau premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor, sydd ddim cynnwys ailgartrefi.
Ers 1 Ebrill 2017, mae eiddo sydd heb ei ddodrefnu a heb ei feddiannu am fwy na blwyddyn ac yn wag yn hirdymor ym Mhowys wedi bod yn destun premiwm Treth y Cyngor o 50%, gan olygu bod yn rhaid talu Treth y Cyngor o 150%.
Mae rheoliadau'n caniatáu codi premiwm Treth y Cyngor 100% ar yr eiddo hyn gan arwain at gyfanswm o 200%.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gyllid: "Rydym yn awyddus i ddeall pam mae rhai eiddo, bron i 1,000 ym Mhowys, yn cael eu gadael yn wag am gyfnodau hir gan eu perchnogion a pha effaith y gallai cynyddu'r premiwm ei chael ar nifer yr eiddo gwag hirdymor sydd gennym yn y sir.
"I berchnogion sydd am ddechrau ailddefnyddio eu heiddo preswyl, mae'r Cyngor yn cynnig cynllun benthyciadau di-log sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i wella cartrefi. Gellir gweld rhagor o fanylion ar ein gwefan.
"Mae gennym ddiddordeb yn yr effaith y gallai gynyddu premiwm Treth y Cyngor ei gael ar yr eiddo hyn o ran dechrau eu hailddefnyddio, gyda'r posibilrwydd o gefnogi cynnydd yn nifer y tai fforddiadwy a sut y gallai hyn effeithio ar gymunedau lleol yn gyffredinol."
I ymateb i'r ymgynghoriad, gall pobl lenwi'r arolwg ar-lein yma https://haveyoursay.powys.gov.uk/cymraeg/.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener 30 Hydref.