Cyngor yn gweithredu dros 'Arian Twyll'

18 Medi 2020
Mae dau archwiliad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys, oedd yn targedu masnachwyr diegwyddor, i fod ar y teledu, o fewn y rhaglen 'Ill Gotten Gains' ar BBC Un.
Mae gwaith swyddogion Safonau Masnach, a aeth i'r afael â chwmni yn gwerthu cynnyrch gwynnu dannedd peryglus yn Sioe Frenhinol Cymru, oedd wedi cael enillion o £2.6 miliwn, i gael sylw heddiw ar y rhaglen (dydd Gwener, 18 Medi), am 11am.
Ac mae ymdrechion yr un tîm i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr mewn oed oedd yn agored i niwed gyda sgamiwr siacedi lledr ffug prysur i gael sylw yn yr un gyfres ar ddydd Gwener, 25 Medi, unwaith eto am 11am.
Cyflwynir y rhaglen deledu'r BBC gan Angelica Bell a Rav Wilding.
Yn ystod YmgyrchGleam, gwelwyd Swyddogion Safonau Masnach Powys yn dal drwgweithredwyr yn gwerthu cynnyrch gwynnu dannedd oedd yn cynnwys 100 gwaith y symiau o hydrogen perocsid a ganiateir yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2013. Cafodd eu hasedau eu rhewi ac mae'r cyngor yn adhawlio ei gostau trwy'r Ddeddf Enillion Troseddau (POCA).
Mae £1.1 yn ddyledus i'w dalu gan y diffynnydd olaf i'w dargedu fel rhan o'r gweithrediadau gorfodaeth (23 Medi 2020) ac mae'n wynebu dedfryd o saith mlynedd o garchar os na fydd yn talu. Hyd yn hyn, mae £185,000 wedi cael ei adfer.
Yn ystod Ymgyrch Sweep, gwelwyd Swyddogion Safonau Masnach Powys, gyda chefnogaeth Safonau Masnach Cenedlaethol, yn mynd i'r afael â masnachwr diegwyddor oedd yn targedu siopwyr y tu allan i archfarchnadoedd gyda'i ymgyrch i werthu siacedi lledr ffug. Fe'i harestiwyd yn Abercraf a chafodd ei nwyddau ffug a'i arian parod eu meddiannu.
Daethpwyd â'r dyn yn ôl yn ddiweddarach o Naples a'i erlyn, gydag iawndal yn cael ei sicrhau ar gyfer rhai o'i ddioddefwyr gofidus.
Dywedodd y Cyng. James Evans, yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Rheoleiddio: "Mae'n wych fod gwaith ein swyddogion safonau masnach wedi denu sylw cenedlaethol oddi wrth y rhwydweithiau teledu ac fe fyddaf yn sicrhau fy mod yn gwylio'r ddwy bennod hon o 'Ill Gotten Gains' ar BBC Un, gan ddisgwyl y byddant yn hynod o ddiddorol i'w gwylio.
"Dim ond trwy waith diwyd ac ymroddedig ein harchwilwyr, ynghyd â Heddlu Dyfed Powys ac eraill gan gynnwys Littleton Murdock Limited, Apex Chambers, y tîm Archwilio rhanbarthol dros Gymru a'r Swyddfa Eiddo Deallusol, y cafodd y llwyddiannau hyn eu cyflawni."
Yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20, roedd Safonau Masnach Powys wedi ennill £285,000 trwy asedau troseddwyr, gan ddefnyddio gweithdrefnau enillion troseddau (POCA) sy'n digwydd wedi'r dedfrydu troseddwr.
Aeth tua £80,000 o hynny'n ôl yn uniongyrchol i ddioddefwyr ym Mhowys a thu hwnt mewn amrywiaeth o achosion, gyda'r cronfeydd hyn yn cael eu talu'n uniongyrchol gan y gwasanaeth llysoedd oherwydd camau gweithredu'r cyngor.
- 'Ill Gotten Gains', cyfres 4, pennod 10 - 11am, BBC 1, Dydd Gwener, 18 Medi:https://www.bbc.co.uk/programmes/m000mn69
- 'Ill Gotten Gains', cyfres 4, pennod 15 - 11am, BBC 1, Dydd Gwener, 25 Medi:https://www.bbc.co.uk/programmes/m000mvd4