Cadw Powys yn gynnes - Nawdd EC03 ar gael yn awr

22 Medi 2020
Mae Cyngor Sir Powys yn cymryd rhan yn EC03, y cynllun grantiau arbed ynni cenedlaethol, a ariennir gan y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO).
Mae'r grant wedi'i ddylunio i gynorthwyo wrth ddarparu inswleiddiad a gwelliannau gwresogi sy'n arbed ynni i gartrefi sy'n byw mewn tlodi tanwydd ar draws y sir.
Mae cartrefi sy'n gymwys am gefnogaeth yn cynnwys tenantiaid preifat neu berchen-feddianwyr sydd ar incwm isel a/neu'n derbyn budd-daliadau.
Dywedodd y Cyng. James Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Economi, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Rydym wedi penodi Cymru Gynnes i reoli cyflwyno ECO3 ym Mhowys. Gan weithio ar ran y cyngor, bydd Cymru Gynnes yn trefnu gosod mesurau effeithiolrwydd ynni mewn eiddo sy'n aneffeithiol ar hyn bryd ac sy'n costio llawer i'r preswylwyr eu gwresogi, na fyddant o bosibl yn gallu eu fforddio.
"Fel y byddwn yn symud tuag at fisoedd oerach y flwyddyn, mae'n bwysig fod cartrefi cyfforddus sy'n haws i'w gwresogi gan ein trigolion sydd fwyaf agored i niwed. Bydd y mesurau arbed ynni yn cael effaith bositif hefyd ar yr amgylchedd yn y tymor hir."
Dylai trigolion sydd â diddordeb mewn ymgeisio neu'n chwilio am wybodaeth gysylltu â Chymru Gynnes ar 01656 747 622, e-bost information@warmwales.org.uk neu edrych ar www.warmwales.org.uk.