Canolfan Bro Ddyfi

Image of a person lifting weights

22 Medi 2020

Image of a person lifting weights Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y gwaith angenrheidiol ar Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi'n dechrau ddydd Mercher 23 Medi. Y disgwyl yw y bydd y gwaith yma'n cymryd pum wythnos i'w gwblhau. Fodd bynnag, trwy weithio ar yr adeilad fesul rhan rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau heblaw am nofio (y neuadd chwaraeon, yr ystafell ffitrwydd, a'r neuadd bowls) yn ailagor o fewn pedair wythnos. Rydym yn disgwyl i'r pwll nofio ailagor wedi hynny. Byddwn yn cyhoeddi datganiad arall yn yr wythnosau canlynol gyda chadarnhad o'r dyddiad ailagor. Rydym yn gwerthfawrogi'ch amynedd yn ystod y cyfnod yma ac rydym i gyd yn Freedom Leisure yn edrych ymlaen at eich croesawu'n ôl.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu