Achos o Covid-19 mewn ysgol gynradd yn Ne Powys

24 Medi 2020
Mae'r cyngor sir wedi datgan bod dros 20 o blant mewn ysgol gynradd yn ne Powys yn hunan-ynysu ar ôl i aelod o'r ysgol brofi'n bositif am Covid-19.
Mae'r achos a gadarnhawyd yn golygu y gofynnwyd i 22 o ddisgyblion ac un aelod o staff yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl i ddisgybl brofi'n bositif am Covid-19.
Mae teuluoedd â disgyblion sydd wedi'u hadnabod i fod wedi cael cyswllt posibl â'r disgybl wedi cael gwybod am y sefyllfa.
Mae gwaith glanhau gyda ffocws pendant wedi digwydd yn yr ysgol a bydd pob disgybl arall yn parhau i fynychu'r ysgol fel y cynlluniwyd.
Mae Cyngor Sir Powys wedi gweithio gyda phob ysgol yn y sir i sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle pe bai disgybl neu aelod o staff yn profi'n bositif am Covid-19. Mae'r gweithdrefnau hyn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chydweithio agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg: "Mae ein swyddogion addysg wedi gweithio'n gyflym gyda staff yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr er mwyn lleihau'r risg i bawb.
"Rydym wedi gweithio gyda'n holl ysgolion sydd wedi rhoi mesurau yn eu lle i leihau'r risg o ledaenu'r coronafeirws.
"Fodd bynnag, mae'r achos hwn yn dangos bod y coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad go iawn i iechyd y cyhoedd.
"Mae gweithdrefnau cadarn yn eu lle gan ysgolion ac mae'r broses Profi, Olrhain a Diogelu yn cael ei dilyn.
"Rwy'n deall y bydd rhieni'n pryderu ond mae'r broses hon o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o'r 'normal newydd' a lle mae ysgolion yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm i bobl ddychryn.
"Mae'n bwysig ein bod i gyd yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn cadw pellter cymdeithasol ac yn parhau i olchi dwylo'n aml er mwyn atal y feirws rhag lledaenu cymaint ag y gallwn.
"Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n sâl ac os oes ganddo unrhyw un o'r tri symptom o COVID-19 neu os ydynt yn byw ar aelwyd gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi profi'n bositif yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae os ydym am osgoi cynnydd sydyn yn y sir a'r posibilrwydd o ail-gyflwyno mesurau cloi."