Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ol-rhain a Diogelu Powys - Covid-19 Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Sir Powys a Bwrdd Addysgu Iechyd Powys (fel Rheolwyr Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol mewn perthynas â'r pandemig coronafeirws yn benodol.

Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ar draws sefydliadau er mwyn ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus critigol mewn perthynas â'r pandemig COVID-19.  Caiff y data personol ar gyfer y gwasanaeth hwn ei brosesu at dri diben, sef:

Profi; profi gweithwyr hanfodol, preswylwyr, aelodau o'u haelwydydd a chysylltiadau ar draws Powys mewn Unedau Profi Cymunedol, Unedau Profi Symudol a / neu gartref.

Olrhain; defnyddio canlyniadau o achosion wedi'u cadarnhau i gysylltu ag unigolion a

  • Dod hyd i fanylion a chysylltu ag unigolion ar aelwydydd,
  • Adnabod unigolion a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â'r unigolyn oedd â symptomau posibl neu a gadarnhawyd yn ystod y cyfnod o 48 awr cyn a 7 diwrnod ar ôl y symptomau
  • Prosesu manylion symudiadau, a lleoliadau a fydd yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol â'r unigolyn, h.y. teithio, siopa

Diogelu; gwella system arolygu ac ymateb iechyd y cyhoedd er mwyn gallu atal heintiau ac olrhain y feirws wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.  Bydd y Tîm Ymgynghorwyr Cyswllt yn cysylltu'n ddyddiol gyda'r Prif Gysylliadau a'r Cysylltiadau Eilaidd i fonitro sut y maen nhw'n teimlo ac i fonitro os yw'r cysylltiadau eilaidd yn datblygu symptomau.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol?

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei rhoi yn uniongyrchol gennych chi, o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt am ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yw:  

  • GDPR Erthygl 6 (e) rydym ei angen i gyflawni tasg gyhoeddus


Pan fyddwn yn casglu data am eich iechyd rydym hefyd yn dibynnu ar y seiliau cyfreithlon ganlynol:

  • GDPR Erthygl 9 (2) (h) Darparu meddyginiaeth ataliol neu feddyginiaeth galwedigaethol, gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol
  • GDPR Erthygl 9 (2) (i) Iechyd y Cyhoedd
  • GDPR Erthygl 9(2)(g) Diddordeb sylweddol y cyhoedd

Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1, Rhan 1, (2) (2) (f) - Dibenion iechyd a gofal cymdeithasol

Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1, Rhan 1, (3) (a) - angenrheidiol am resymau sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd yn y maes iechyd cyhoeddus

Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1, Rhan 2 (6) Dibenion statudol a'r llywodraeth

Eich hawliau

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

  • Eich hawl mynediad - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i gywiro - mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth ry'ch chi'n meddwl sy'n anghywir.  Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni wneud yn siwr bod eich gwybodaeth yn gyflawn os ydych yn credu ei bod yn anghyflawn.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu bod eich data personol yn cael ei brosesu mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu ag un o'r ddau sefydliad i arfer eich hawliau gwybodaeth mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol honno sy'n cael ei phrosesu yn ystod  gweithgareddau Profi, Olrhain a Diogelu.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am raglen brofi'r coronafeirws ar-lein:

https://www.gov.uk/government/publications/coronavirus-covid-19-testing-privacy-information/testing-for-coronavirus-privacy-information

Sut i gwyno os ydych chi'n anfodlon gyda'r ffordd y defnyddir eich data

Gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r Cyngor:

Cyngor Sir Powys
E-bost: information.compliance@powys.gov.uk

Drwy'r post: Swyddog Diogelu Data, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

 

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
E-bost: information.governance.powys@wales.nhs.uk

Drwy'r post: Swyddog Diogelu Data, Ty Glasbury, Bronllys, LD3 0LS

 

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisinydd Gwybodaeth gan ddefnyddio'r manylion canlynol:

Gwefan Swyddfa'r Comisinydd Gwybodaeth

Yn y post: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Ffôn: 0330 414 6421

 

Gellir cael rhagor o gyngor ac arweiniad gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn ar wefan Swyddfa'r Comisinydd Gwybodaeth. https://ico.org.uk/about-the-ico/media-centre/news-and-blogs/2020/03/data-protection-and-coronavirus/

 

Datblygwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn 28 Mai 2020.