Ailagor llwybr croesfan reilffordd yn Fron

01 Hydref 2020
Mae llwybr yng ngogledd Powys wedi ailagor yn ddiweddar ar ôl pedair blynedd o waith i wella diogelwch ar groesfan reilffordd gerllaw.
Ar ôl i'r corff rheoleiddio'r rheilffyrdd, Y Swyddfa Reilffyrdd a Ffyrdd gyflwyno hysbysiad diogelwch yn 2016, roedd y groesfan yn Fron ger Ffordun ar gau i'r cyhoedd dros dro er mwyn iddi gael ei gwella.
Rhoddwyd yr hysbysiad oherwydd bod rhaid i drenau stopio ar y groesfan ei hun i ildio i drenau a oedd yn dod o'r cyfeiriad cyferbyn. Arweiniodd hyn at ddigwyddiadau lle'r oedd y cyhoedd yn ceisio croesi'r rheilffyrdd o flaen trên.
Dros y pedair blynedd diwethaf buodd y cyngor yn cydweithio'n agos â Network Rail i sicrhau bod diogelwch y groesfan hon yn gwella. Mae'r gwaith bellach wedi dod i ben sy'n golygu bod yr hysbysiad cau wedi cael ei godi o'r llwybr a'r groesfan a bellach maen nhw ar agor i'r cyhoedd.
Mae peirianwyr i Network Rail wedi adleoli cyfarpar signalau ar y rheilffordd fel nad yw trenau'n aros ar y groesfan ei hun bellach. Mae hyn yn gwneud y llwybr yn fwy diogel ac o fewn cyrraedd hwylus i'r cyhoedd. Bydd y newidiadau a wnaed yn gwella perfformiad amserau trên, yn lleihau ar oedi ac yn gwella diogelwch y groesfan.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cefn Gwlad, "Rwyf wrth fy modd yn gweld bod y gwelliannau hyn wedi dod i ben a diolch i Network Rail am ddarparu gwasanaeth gwych.
"Bellach mae'r llwybr a'r groesfan reilffordd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio unwaith yn rhagor a chaiff cerddwyr ddefnyddio'r safle'n ddiogel."
Dywedodd Phil Cuddihy, Rheolwr Prosiect gyda Network Rail: "Rydym yn gwybod bod y llwybr hwn yn boblogaidd iawn gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr â'r ardal. Felly, rydym yn falch dros ben o fedru cynorthwyo i'w ailagor.
Hoffwn i ddiolch i Gyngor Sir Powys a'r gymuned leol am fod mor amyneddgar wrth i ni weithio i wneud y groesfan reilffordd hon yn fwy diogel."
Hoffai Cyngor Sir Powys a Network Rail atgoffa defnyddwyr y groesfan i fod yn wyliadwrus wrth ddefnyddio'r groesffordd, gan gofio 'stopio, edrych a gwrando' am drenau sy'n nesáu ac i gadw cŵn wrth dennyn.