Mae gwaith adeiladu ar fynd yn Llanidloes

16 October 2020
Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect tai newydd Cyngor Sir Powys i ddarparu mwy na 20 o gartrefi newydd.
Mae'r contractwyr, J Harper and Sons wedi dechrau gwaith ar hen safle marchnad da byw yn y dref gan adeiladu 22 o dai cyngor newydd.
Mae contract wedi cael ei wobrwyo i'r cwmni i adeiladu 22 o aneddleoedd ar safle Ffordd y Gorn i gynnwys dau Dŷ 4 ystafell wely, pedwar Tŷ 2 ystafell wely, chwe Thŷ 3 ystafell wely, wyth Byngalo 2 ystafell wely a dau Fyngalo dormer 3 ystafell wely, ynghyd â gwaith allanol a draenio cysylltiedig.
Ffotograff: Golyga o'r awyr o safle Ffordd y Gorn.