Arolwg y Cyngor i drigolion byddar a thrwm eu clyw

Hydref 20, 2020
Mae'r Cyngor yn gofyn i bobl fyddar a thrwm eu clyw yn y Sir am eu barn ar sut y gall gyfathrebu â hwy.
Mae arolwg ar-lein yn holi trigolion pa mor hawdd - neu anodd - fu hi iddynt gyfathrebu â'r cyngor wrth drafod neu wneud cais am wasanaethau.
Mae'r arolwg i'w weld yn https://dweudeichdweud.powys.gov.uk/ a bydd ar agor hyd ddiwedd y mis. Mae fideo sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - tro cyntaf y mae'r cyngor wedi gofyn trwy ddefnyddio BSL - ar gael i bobl sy'n defnyddio'r iaith hon, a bydd yr atebwyr yn cael cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ateb.
Y Cynghorydd Graham Breeze yw'r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Cwsmer. Ei sylw oedd: "Byddwn yn annog pawb o gymunedau byddar a thrwm eu clyw i ateb yr arolwg yma ac rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu cyflwyno opsiwn yn yr iaith arwyddion.
"Mae'n wirioneddol bwysig bod y cyngor yn rhoi cyfle i bob un o'r trigolion gael yr un cyfleoedd a'n bod ni'n cyfathrebu'n effeithio gyda phawb. Gobeithio y bydd yr arolwg yn dwyn sylw at unrhyw feysydd y gallwn eu gwella, ac yn dangos sut y gallwn wneud pethau'n wahanol."
Comisiynodd y cyngor y Wales Interpretation and Translation Service yng Nghaerdydd i gynhyrchu'r fideo.
Mae copi papur o'r arolwg i'w gael trwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmer ar 01597 827460 neu anfon e-bost at @powys.gov.uk.