Amser bron ar ben i anfon cais am le mewn ysgol uwchradd

3 Tachwedd 2020
Mae llai na phythefnos ar ôl i rieni a gofalwyr plant fydd yn dechrau ysgol uwchradd ym mis Medi 2021 i anfon eu ceisiadau, dywedodd Cyngor Sir Powys.
Mae dros fil o ddysgwyr sydd ym mlwyddyn olaf yr ysgol gynradd heb anfon eu ceisiadau hyd yma.
Gyda'r dyddiad cau ddydd Gwener 13 Tachwedd, mae'r cyngor yn annog rhieni a gofalwyr i anfon eu ceisiadau mor fuan â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Dylai pob rhiant/gofalwr lenwi'r cais hwn mor fuan â phosibl am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2021.
"Os na fydd yn cael ei lenwi mewn pryd, mae'n bosibl na fydd lle i'r plentyn yn yr ysgol o'u dewis."
Dylai rhieni/gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn:
https://en.powys.gov.uk/article/1161/Apply-for-a-Secondary-School-Place erbyn dydd Gwener 13 Tachwedd.
Os na allwch ymgeisio ar-lein, cysylltwch â admissions@powys.gov.uk