Ychydig o wythnosau o gasgliadau gwastraff o'r ardd ar ôl ar gyfer 2020

5 Tachwedd 2020
Mae preswylwyr a thanysgrifwyr casgliadau gwastraff o'r ardd yn cael eu hatgoffa mai dim ond ychydig o wythnosau o gasgliadau sydd ar ôl ar gyfer eleni.
Mae'r gwasanaeth, sy'n dechrau ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn casglu gwastraff o'r ardd bob pythefnos tan wythnos gyntaf mis Rhagfyr. I wirio'r dyddiadau casglu sy'n weddill edrychwch ar y sticer tanysgrifiad 2020 ar eich bin gwyrdd, neu ewch i:
https://cy.powys.gov.uk/article/752/Diwrnod-casglu-biniau
Bydd tanysgrifiadau ar gyfer gwasanaeth 2021 yn agor ym mis Ionawr, gyda'r gwasanaethau'n ailddechrau ar ddechrau mis Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, yr Aelod Cabinet dros Ailgylchu a Gwastraff: "Mae llawer ohonom yn brysur iawn yn ein gerddi yr adeg hon o'r flwyddyn, yn tacluso ar ôl yr haf a pharatoi pethau ar gyfer y gwanwyn. Felly, rydym yn awyddus i atgoffa ein trigolion i wneud y gorau o'r ychydig gasgliadau gwastraff o'r ardd olaf sydd ar ôl yn 2020.
"Hyd yn hyn eleni, gyda chymorth aelwydydd sy'n cymryd rhan, mae dros 4,000 tunnell o wastraff o'r ardd wedi'i gasglu ac wedi ei ailgylchu i greu compost.
"Wrth gwrs, tra bod y gwasanaeth yn cymryd ei egwyl dros y gaeaf, gallwch ddal i ailgylchu gwastraff eich gardd drwy ei gompostio gartref neu drwy fynd ag ef i un o'r pum canolfan wastraff ac ailgylchu cartrefi ym Mhowys unwaith y bydd y cyfyngiadau symud wedi'u codi."
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff gardd,ewch i: https://cy.powys.gov.uk/gwastraffgardd