Cabinet yn cymeradwyo strategaeth AAA / ADY newydd

5 Tachwedd 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi datgan bod strategaeth arfaethedig a allai drawsnewid y ddarpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet.
Mae'r cyngor wedi llunio strategaeth arfaethedig ar gyfer Dyfodol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ym Mhowys, a fydd yn llywio'r gwaith o drawsnewid y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag AAA / ADY. Cymeradwywyd y strategaeth gan y Cabinet yr wythnos hon (ddydd Mawrth, 3 Tachwedd).
Gwella'r ddarpariaeth AAA / ADY yw un o nodau strategol Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030, a gymeradwywyd ym mis Ebrill.
Lluniwyd y strategaeth o ganlyniad i adborth o ymarfer ymgysylltu yn gynharach eleni lle rhoddwyd cyfle i bobl ddweud eu dweud ar weledigaeth ddrafft ar gyfer darpariaeth AAA / ADY.
Mae saith maes trawsnewid wedi'u cynnwys yn y strategaeth. Y rhain yw:
- Prif ffrwd
- Cymorth Cynnar/Asesu
- Darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth
- Canolfannau Arbenigol
- Darpariaeth Ymddygiad Arbenigol
- Darpariaeth ar gyfer dysgwyr AAA/ADY hyd at 25 oed
- Cymorth cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag AAA/ADY
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi bod mewn cyswllt cyson gyda rhieni, dysgwyr, arweinwyr ysgolion, athrawon ac eraill i helpu i lywio'r gwaith o ail-lunio a thrawsnewid y ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mhowys.
"Yn ystod ein sesiynau ymgysylltu, codwyd nifer o faterion am ein darpariaeth ADY / AAA bresennol. Roedd hyn yn cynnwys bod gan ddisgyblion ansawdd a math gwahanol o ddarpariaeth yn dibynnu ar ble roeddent yn byw, roedd yn rhaid i rai teithio'n bell i gyrraedd darpariaeth sy'n diwallu eu hanghenion tra bod y mynediad i ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn anghyson.
"Ein huchelgais yw bod ein hysgolion yn gwbl gynhwysol, gan addysgu disgyblion ag ystod eang o anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol. I'n dysgwyr ag anghenion mwy cymhleth, rydym am ddatblygu ar gryfderau ein hysgolion arbennig, a chael rhwydwaith a fydd yn caniatáu i ddysgwyr gael mynediad at ystod o ddarpariaeth a chymorth arbenigol mor agos i'w cartrefi ag sy'n bosibl.
"Bydd y strategaeth hon yn helpu'r cyngor i gyflawni'r uchelgais hwn ac yn rhoi'r dechrau gorau posibl i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol y maent yn ei haeddu."