Trefniadau Rheoli Gweithredol

09 Tachwedd 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi gosod trefniadau newydd yn eu lle i gryfhau'r uwch dîm arwain yn dilyn ymadawiad Ness Young, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau a Thrawsnewid a adawodd yr awdurdod yr wythnos diwethaf.
Fel mesur dros dro i roi sefydlogrwydd a chryder i dîm arwain y Cyngor, gwahoddwyd Emma Palmer, Pennaeth Trawsnewid a Chyfathrebu a Geriant Rees, Arweinydd Strategol dros Addysg, i ymuno â'r Tîm Rheoli Gweithredol. Bydd hyn yn digwydd ar unwaith.
Geraint fydd yr arweinydd strategol dros Addysg gan weithio gyda Lynette Lovell, Prif Swyddog Addysg. Bydd Lynette yn ymgymryd â rôl fwy gweithredol fel Pennaeth Dros Dro y Gwasanaeth Addysg. Bydd y newid yn galluogi addysg i fod yn rhan o drafodaethau strategol a chorfforaethol y Tîm Rheoli Gweithredol.
Bydd Emma'n sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal o ran gwaith pwysig y cyngor yn y maes trawsnewid a pherfformiad a bydd yn parhau yn y rôl arweiniol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Addysg gyda Geraint a Lynette.
Dywedodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr; "Mae'r Cyngor wedi symud yn gyflym i gryfhau'r tîm gweithredol yn dilyn ymadawiad Ness. Bydd y newidiadau'n cryfhau ac yn darparu sefydlogrwydd wrth i ni roi'r Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg a'r Rhaglen uchelgeisiol i Drawsnewid Addysg ar waith.
"Byddwn yn edrych ar anghenion hir dymor y cyngor fel rhan o'r adolygiad o'r Uwch Dîm Arwain, ond am y tro, ein nod yw cael parhad."