Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer Parc Busnes Abermiwl.

9 Tachwedd 2020
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a'r broses cyn ymgeisio, mae cais cynllunio ffurfiol ar gyfer unedau busnes ym Mharc Busnes Abermiwl wedi'i gyflwyno.
Mae'r safle eisoes â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 6 uned, ond mae Cyngor Sir Powys am wneud cais ar gyfer datblygiad newydd a fydd yn creu mwy o unedau llai o faint a fydd yn fwy addas i anghenion yr economi lleol ac yn helpu busnesau newydd.
Gorffenwyd y gwaith o greu'r seilwaith sylfaenol ar y safle flynyddoedd yn ôl ac mae gwaith ar fynd ar hyn o bryd i adeiladu Cyfleuster Crynhoi Gwastraff Gogledd Powys.
"Yn dilyn cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio, rwy'n falch dros ben ein bod yn gallu cyflwyno'r cais ffurfiol am nifer o unedau busnes llai ym Mharc Busnes Abermiwl", esboniodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Eiddo.
"Bydd yr unedau hyn yn gyfle gwych i ni fuddsoddi ymhellach yn Abermiwl a rhoi hwb i economi busnesau bach yr ardal."
"Mae'r cynllun datblygu wedi cynnwys y safle hwn ers sawl blwyddyn ac mae Cyngor Sir Powys yn awyddus i wireddu'r prosiect hwn er budd yr economi lleol ac i gefnogi mentrau newydd.
"Cyngor Sir Powys sydd berchen ar y safle hwn a bydd modd rhentu'r unedau gyda'r awdurdod lleol yn parhau i reoli'r safle ar ddiwedd y gwaith adeiladu."
Gallwch weld manylion y cais cynllunio ar-lein yn https://pa.powys.gov.uk/online-applications