Coronafeirws (COVID-19) - Gwirfoddoli
Wrth i ni barhau i ymateb i'r sefyllfa gyfnewidiol, rydym yn fwyfwy ymwybodol o'r angen i gynnig help a gofal i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae ymdrechion gwirfoddolwyr ar draws cymunedau Powys wrth ymateb i'r COVID19 wedi bod yn ysbrydoledig, ac rydym yma i helpu.
Mae PAVO gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a phartneriaid eraill, wedi sefydlu Tîm Ymateb Brys y Sector Gymunedol (C-SERT) i gydlynu a chefnogi'r ymateb brys. Trwy C-SERT rydym yn cefnogi'r gwasanaethau iechyd a gofal allweddol sy'n dioddef o effeithiau'r feirws, megis gofal cartref, gofal preswyl a nyrsio.
Dyma sut mae PAVO a'i bartneriaid yn helpu .....
Cysylltwyr Cymunedol
I unrhyw unigolyn sy'n ynysig oherwydd y COVID19, teulu a ffrindiau agos yw'r man cyswllt cyntaf. I'r rhai sy'n hunanynysu a heb unrhyw deulu neu ffrindiau agos wrth law i helpu gydag anghenion beunyddiol, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol PAVO ar 01597 828649 neu ar e-bost community.connectors@pavo.org.uk . Trwy 13 o Gysylltwyr Cymunedol, rydym yn cysylltu'r rhai sydd mewn angen â mentrau llawr gwlad sy'n helpu pobl.
Gwirfoddolwyr Iechyd a Gofal Powys COVID-19
Rydym yn ceisio hwyluso'r broses o wirfoddoli, felly erbyn hyn mae yna gofrestr ganolog lle bydd pobl yn gallu cofrestru a chael mwy o wybodaeth. Mae'r gofrestr hon yn benodol i'r rhai sydd am helpu'r gwasanaethau iechyd a gofal statudol megis gofal cartref, cartrefi preswyl, fferyllfeydd, meddygfeydd ac ysbytai. Byddwn yn cynnig hyfforddiant perthnasol i wirfoddolwyr ac yn eu cefnogi yn eu gwaith, ac mae dewis o gyfleoedd. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn gallu ac yn fodlon rhoi o'u hamser i wirfoddoli fel hyn, cofiwch gysylltu.
Cefnogaeth i rwydweithiau cymunedol
Mae llu o rwydweithiau cymorth anffurfiol a gweithgareddau ymateb mewn argyfwng yn ymddangos ar draws Powys, ac rydym wrth gwrs yn croesawu hyn, ond mae angen sicrhau bod mesurau diogelu mewn lle a bod y rhai sydd fwyaf angen yn derbyn yr help heb ormod o risg. Os ydych chi'n arwain neu'n cymryd rhan yn un o'r rhwydweithiau hyn a'ch bod angen help, cefnogaeth neu fwy o wirfoddolwyr, ewch i wefan PAVO neu cysylltwch â Chanolfan Wirfoddolwyr PAVO yn uniongyrchol - volunteering@pavo.co.uk
Mwy o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth ar wirfoddoli a'r ymateb i'r COVID-19, ewch i wefan PAVO ar www.pavo.org.uk/home.html . I gael y diweddaraf ar y gwaith hwn, beth am danysgrifio i fwletin wythnosol y sector wirfoddoli ar wefan PAVO.