Toglo gwelededd dewislen symudol

Coronafeirws (COVID19)

Pwysig! Peidiwch â mynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty.  Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch coronafeirws, ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Darllenwch y wybodaeth ar y wefan cyn penderfynu a oes angen ichi ffonio 111  (gwasanaeth coronafeirws am ddim ar gyfer Cymru).

Y wybodaeth ddiweddaraf

Cyhoeddiadau swyddogol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. 

 

Cyngor Sir Powys:

Mae Cyngor Sir Powys yn dilyn cyngor Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Diweddariad ar Wasanaethau'r Cyngor

Camau gorfodi

Rhaid i fusnesau sicrhau bod yr HOLL fesurau diogelwch cywir ar waith ac y glynir wrth y cyfyngiadau presennol.

Mae ein Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd yn helpu i sicrhau bod busnesau'n parhau i gydymffurfio. Riportiwch unrhyw bryderon itrading.standards@powys.gov.uk / 01597 827460

 

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Gwybodaeth ac arweiniad ar Coronafeirws COVID-19

Sicrhau Gofal Diogel a Pharchus i'r Meirw (PDF) [411KB]

 

Llywodraeth Cymru:

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ac asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill y DU i fonitro'r sefyllfa'n ofalus a rhoi eu hymateb a gynlluniwyd ar waith, gyda mesurau yn eu lle i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

 

Achosion o Dwyll a Sgâm yn sgil y Coronafeirws:

Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â negeseuon gwe-rwydo, gwefannau ffug a sawl sgâm arall wrth i droseddwyr gamfanteisio ar ofnau pobl ynglŷn â'r Coronafeirws.

 

Cymorth a Chyngor Meddygol

Galw Iechyd Cymru a NHS 111

Gwiriwr symptomau Coronafeirws COVID 19.

Mae'r gwiriwr symptomau hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n byw yng Nghymru a gellir ei ddefnyddio ar gyfer pobl o bob oed.

Mae gan wasanaeth coronafeirws ar-lein sy'n gallu dweud a ydych angen help meddygol a rhoi cyngor ar beth i'w wneud.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn:

  • os ydych chi'n credu bod gennych y coronafeirws
  • os ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â'r coronafeirws.
  • Bydd angen i chi gael nodyn hunan-ynysu ar gyfer eich cyflogwr

Defnyddiwch wasanaeth coronafeirws 111.

 

Sut i osgoi dal neu ledaenu coronafeirws.

Cofiwch

  • olchi eich dwylo'n aml gyda sebon a dŵr - am o leiaf 20 eiliad.
  • olchi eich dwylo ar ôl cyrraedd adref neu'r gwaith.
  • ddefnyddio hylid diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon wrth law.
  • orchuddio eich ceg a'ch trwyn gyda hances bapur neu'ch llawes (nid eich dwylo) wrth beswch neu disian.
  • rhowch yr hancesi papur yn y bin yn syth ac yna golchi eich dwylo.
  • ceisiwch osgoi bod yn rhy agos i bobl sy'n sâl.

Peidiwch

  • gyffwrdd â'ch llygaid, trwyn neu geg os nad yw'ch dwylo chi'n lân.