Hysbysiad: Grantiau Busnesau newydd ar gael nawr
Darllen mwy

Dawns Powys

 Powys Dance ImageMae Dawns Powys yn cynnal dosbarthiadau, hyfforddiant a pherfformiadau i bobl Powys.  Rydym yn gweithio o'r Ganolfan Ddawns yn Llandrindod, ond yn gweithio ar hyd a lled y sir.

Mae'r Ganolfan Ddawns yn Hen Neuadd yr Eglwys, yn Heol Arlais, Llandrindod.

Mae ganddi stiwdio ddawns ragorol, gyda bariau dawns, drychau a llawr dawns crog, sy'n trawsnewid i theatr fach.  Gallwch logi'r ganolfan ddawns ar gyfer ymarferion, cyfarfodydd, perfformiadau, cynadleddau a dosbarthiadau dawns.Powys Dance Image

Y gyfradd fesul awr yw:

  • £20 ar gyfer Corfforaethol
  • £15 ar gyfer Grwpiau Cymunedol
  • £12 Cymdeithasau sy'n gysylltiedig â Dawns Powys (os ydych chi'n cynnig dosbarth dawns cymunedol).

 

Powys Dance ImageMae Cwmni Dawns Ieuenctid Powys wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ddawns yn Llandrindod ac mae ar gyfer pobl ifanc sydd am ddatblygu eu techneg, eu sgiliau perfformio a'u creadigrwydd, gan arbenigo mewn Dawns Gyfoes.

Rydym yn cwrdd yn ystod y gwyliau i greu dawnsiau sy'n cael eu perfformio mewn digwyddiadau Dawns Ieuenctid ar hyd a lled Powys.

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu