Dawns Powys
Mae Dawns Powys yn cynnal dosbarthiadau, hyfforddiant a pherfformiadau i bobl Powys. Rydym yn gweithio o'r Ganolfan Ddawns yn Llandrindod, ond yn gweithio ar hyd a lled y sir.
Mae'r Ganolfan Ddawns yn Hen Neuadd yr Eglwys, yn Heol Arlais, Llandrindod.
Mae ganddi stiwdio ddawns ragorol, gyda bariau dawns, drychau a llawr dawns crog, sy'n trawsnewid i theatr fach. Gallwch logi'r ganolfan ddawns ar gyfer ymarferion, cyfarfodydd, perfformiadau, cynadleddau a dosbarthiadau dawns.
Y gyfradd fesul awr yw:
- £20 ar gyfer Corfforaethol
- £15 ar gyfer Grwpiau Cymunedol
- £12 Cymdeithasau sy'n gysylltiedig â Dawns Powys (os ydych chi'n cynnig dosbarth dawns cymunedol).
Mae Cwmni Dawns Ieuenctid Powys wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ddawns yn Llandrindod ac mae ar gyfer pobl ifanc sydd am ddatblygu eu techneg, eu sgiliau perfformio a'u creadigrwydd, gan arbenigo mewn Dawns Gyfoes.
Rydym yn cwrdd yn ystod y gwyliau i greu dawnsiau sy'n cael eu perfformio mewn digwyddiadau Dawns Ieuenctid ar hyd a lled Powys.