Llwytho e-gylchgronau ac e-gomics

Erbyn hyn mae e-gylchgronau ac e-gomics yn yr un ap RBdigital. Os ydych chi wedi defnyddio ComicsPlus o'r blaen, bydd eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn dal i weithio ar y safle newydd.
Bydd aelodau Llyfrgelloedd Powys yn gallu llwytho e-gylchgronau ac e-gomics am ddim o RBdigital. Bydd rhaid i chi fod yn aelod o'r llyfrgell i ddarllen a llwytho e-gylchgronau ac e-gomics RBdigital.
Mynd yn syth i wefan RBdigital
Rhifynnau cyfoes a hen rifynnau o dros 250 o gylchgronau poblogaidd megis Cosmopolitan, BBC History, Auto Express, Economist .....
Comics a nofelau graffig i ddarllenwyr hŷn yn bennaf, e.e. Spiderman, Thor, GI Joe, X-Men, Star Trek ....
Cylchgronau a Chomics
Gall rhieni greu cyfrif arbennig ar gyfer plant dan 10 oed, a fydd yn rhoi mynediad i gomics a chylchgronau sy'n briodol i'w hoedran.
O'r Ap, cofrestrwch fel defnyddiwr newydd a dewiswch 'Llyfrgell Plant Cymru' yn lle Powys.
I gyrraedd y dudalen trwy borwr gwe, ewch i https://waleschildren.rbdigitalglobal.com/ a chreu cyfrif newydd.
Heb ddefnyddio'r gwasanaeth o'r blaen?
Dewiswch un o'r canllawiau isod i'ch helpu.