Lawrlwytho eLyfrau ac eLyfrau Llafar

Gall aelodau o Lyfrgelloedd Powys fenthyg eLyfrau ac eLyfrau Llafar am ddim o Borrowbox. Bydd angen i chi fod yn aelod o Lyfrgelloedd Powys a bydd angen eich PIN llyfrgell arnoch i fewngofnodi.
Miloedd o eLyfrau ac eLyfrau Llafar ar gael i oedolion, plant a phobl ifanc, a'r cyfan o un wefan.
Ar ffôn clyfar neu dabled, gallwch arsefydlu ap Borrowbox sy'n caniatáu i chi chwilio am eLyfrau Llafar ac eLyfrau'n rhwydd a'u lawrlwytho drwy'r un ap.
Fel arall, lawrlwythwch eLyfrau ar gyfrifiadur a'u trosglwyddo i eDdarllenydd cydnaws; a throsglwyddwch eLyfrau Llafar i gyfrifiadur i'w trosglwyddo i chwaraeydd MP3.
Ewch yn syth i wefan BorrowBox
Newydd! Gallwch hefyd weld yr e-lyfrau a'r e-lyfrau llafar yn ein prif gatalog, a'u benthyg o fan'ny. Os nad ydych wedi defnyddio Borrowbox o'r blaen, y tro cyntaf i chi lawrlwytho eitem, bydd yn gofyn i chi gofrestru â Borrowbox, a bydd yn gofyn i chi osod yr ap neu lawrlwytho'r eitem i'ch cyfrifiadur. Mae'r canllawiau isod yn cynnwys mwy o fanylion.
Heb ddefnyddio'r gwasanaeth o'r blaen?
Dewiswch o blith y canllawiau arsefydlu isod. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â ni.