Digwyddiadau recriwtio gofal cymdeithasol
Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol profiadol a chymwysedig sy'n chwilio am gyfle newydd? Neu'n edrych i symud ymlaen i rôl uwch?
Rydym yn recriwtio nawr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ac uwch weithwyr proffesiynol yn ein Tîm Gwasanaethau Plant!
Mae gennym amrywiaeth o swyddi ar gael ledled y sir, gan gynnwys rolau rhan-amser a llawn amser.
Ymunwch â ni yn ein digwyddiad recriwtio ar-lein ddydd Iau 26 Medi 2024 rhwng 6 a 7pm i glywed mwy yn ogystal â:
- Cwrdd â'n tîm Gwasanaethau Plant cyfeillgar: dod i adnabod y staff a'r gwasanaethau sy'n recriwtio
- Dysgwch am ein cynnig i chi: gwybodaeth am ein pecyn buddion deniadol a'r cymorth a'r hyfforddiant proffesiynol sydd ar gael i weithwyr cymdeithasol
- Gofynnwch eich cwestiynau am y rolau.
Cofrestrwch nawr yn: Digwyddiad Recriwtio ar-lein ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol Digwyddiad Recriwtio ar-lein ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar recruitment@powys.gov.uk.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wneud gwahaniaeth i fywydau plant ym Mhowys.
Social Care recruitment events info
Gweithwyr Cymdeithasol
Mae gwybodaeth am y swyddi gwag
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gweithwyr Cymdeithasol)Gweithwyr Cymdeithasol
Mae gwybodaeth am y swyddi gwag
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gweithwyr Cymdeithasol)