Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Polisi Gorfodi Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022

Rhoi Cosb Ariannol a/neu Orchymyn Adennill

Hysbysiad o Fwriad

Ar ôl pennu lefel y gosb ariannol, a/neu'r angen i gyhoeddi gorchymyn adennill, bydd y Cyngor yn rhoi "Hysbysiad o Fwriad" i'r landlord, neu'r unigolyn perthnasol, o fewn y terfynau amser a nodir yn y Ddeddf[1].

Bydd Hysbysiad o Fwriad yn cynnwys:

  • y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad
  • swm y gosb ariannol arfaethedig neu delerau'r gorchymyn adennill arfaethedig,
  • y rheswm dros osod y gosb neu wneud y gorchymyn, a
  • gwybodaeth am yr hawl i gyflwyno sylwadau

Sylwadau Ysgrifenedig

Bydd gan landlord neu berson perthnasol sy'n cael Hysbysiad o Fwriad gyfnod o 28 diwrnod, gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr Hysbysiad o Fwriad, i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig am y cynnig i roi cosb ariannol a/neu orchymyn adennill a'r telerau sydd ynddo. Rhoddir cyfarwyddiadau i dderbynnydd yr hysbysiad am sut i ddarparu ei sylwadau ysgrifenedig mewn ymateb i'r hysbysiad.

Adolygu Cosb Ariannol a/neu Orchymyn Adennill

Bydd y Cyngor yn adolygu unrhyw sylwadau ysgrifenedig a ddaw i law ac yn ystyried unrhyw ffactorau sy'n awgrymu bod gostyngiad yn y gosb, neu dynnu'r hysbysiad a/neu'r gorchymyn yn ôl, yn briodol.

Wrth wneud hynny, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau a ganlyn yn ymwneud ag effeithiau ehangach y gosb ariannol ar drydydd parti diniwed; megis (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Effaith y gosb ariannol ar allu'r Landlord neu'r Asiant i gydymffurfio â'r gyfraith neu wneud iawn lle bo'n briodol
  • Effaith y gosb ariannol ar gyflogi staff, defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid a'r economi leol.

Bydd y ffactorau canlynol yn cael eu hystyried wrth bennu lefel y gostyngiad. Wrth benderfynu ar unrhyw ostyngiad mewn cosb ariannol, rhoddir ystyriaeth i:

  • Y cam yn yr ymchwiliad neu wedi hynny pan dderbyniodd y troseddwr atebolrwydd
  • Yr amgylchiadau pan addefasant atebolrwydd
  • Maint y cydweithrediad â'r ymchwiliad

Uchafswm lefel y gostyngiad mewn cosb am gyfaddef atebolrwydd fydd traean. Mewn rhai amgylchiadau bydd llai o ddisgownt neu ddim disgownt o gwbl. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, lle mae tystiolaeth o'r tramgwydd yn ddiwrthdro neu os oes patrwm o ymddygiad tramgwyddus.

Ni ddylai unrhyw ostyngiad arwain at gosb sy'n llai na'r enillion o ganlyniad i'r tramgwydd ei hun.

Gallai'r Cyngor ystyried diwygio telerau unrhyw orchymyn adennill yn ystod yr adolygiad hwn.

Hysbysiad Terfynol

Ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer sylwadau ysgrifenedig, bydd y Cyngor yn penderfynu a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Terfynol yn manylu ar werth y gosb ariannol a/neu orchymyn adennill. Os yw gorchymyn adennill wedi'i gynnwys yn yr hysbysiad terfynol, gallai'r Cyngor ychwanegu llog at y taliad hwn ar y gyfradd a bennir o dan adran 17 Deddf Dyfarniadau 1838[2] (8% y flwyddyn) o'r diwrnod y gwnaed y taliad rhent gwaharddedig.

Bydd yr hysbysiad terfynol yn gofyn am dalu cosb i'r Cyngor a/neu gydymffurfio â gorchymyn adennill, cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad terfynol.

Bydd yr hysbysiad terfynol yn nodi:

  • y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad terfynol
  • swm y gosb neu delerau'r gorchymyn
  • y rhesymau dros osod y gosb neu dros wneud y gorchymyn
  • gwybodaeth am sut i dalu'r gosb neu gydymffurfio â'r gorchymyn
  • gwybodaeth am hawliau apelio a
  • chanlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad

Tynnu'n ôl neu ddiwygio

Gallai'r Cyngor, ar unrhyw adeg, dynnu'n ôl neu ddiwygio'r hysbysiad o fwriad neu'r hysbysiad terfynol, gan gynnwys lleihau swm y gosb, y gosb neu'r gofyniad am orchymyn adennill. Wrth wneud hynny, bydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr unigolyn y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

 


 

[1] Atodlen a.3(1)Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhenti tir) 2022

[2]Adran 11(4)Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022