Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA)

Cyflwynwyd y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) yn 2000 i roi fframwaith cyfreithiol i awdurdodau cyhoeddus ei ddilyn os byddant yn cynnal gwyliadwriaeth.

Mae awdurdodau lleol bob amser wedi gallu cynnal gwyliadwriaeth - mae RIPA bellach yn rheoleiddio'r defnydd hwnnw ac yn rhoi amddiffyniad i'r cyngor rhag unrhyw achos o dorri Erthygl 8 o'r Ddeddf Hawliau Dynol.

Dim ond ar gyfer atal neu ganfod trosedd a fyddai'n cael ei chosbi drwy ddedfryd o garchar o chwe mis o leiaf y caniateir i awdurdodau lleol gynnal gwyliadwriaeth gudd o dan RIPA. Ar hyn o bryd o dan RIPA gwyliadwriaeth gudd o dan gyfarwyddyd yn unig y gallwn ei gweithredu.

Cyn defnyddio RIPA mae angen i ni ddangos rheswm dilys dros ei ddefnyddio a byddwn yn ystyried defnyddio dulliau llai ymwthiol yn gyntaf. Mae'n rhaid i ni hefyd gael cymeradwyaeth gan Ynad cyn cynnal unrhyw wyliadwriaeth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â defnydd y cyngor o RIPA, cysylltwch â Chydlynydd RIPA neu fel arall, ewch i wefan y Swyddfa Gartref.

Gallwch ddarllen polisi RIPA y cyngor isod:

Polisi Deddf Rheoleiddio Pwerau 2022 (PDF) [771KB]