Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut olwg sydd ar Bowys Gynaliadwy i'r ...

What does this look like
Close Sut olwg sydd ar Bowys Gynaliadwy?

Trigolion 

Byddwch yn gallu ein helpu i ddylunio gwasanaethau o safon sy'n cefnogi byw yn lleol ar draws eich cymunedau. Byddwch yn gallu ein helpu i gynllunio gwasanaethau o safon sy'n cefnogi byw'n lleol ledled eich cymunedau.  

Byddwn yn ailgydbwyso darpariaeth ganolog a lleol, gan ddarparu gwasanaethau canolog allweddol lle gellir cadw'r costau yn is oherwydd eu bod wedi'u lleoli lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw.  Yn lleol, byddwch yn gallu llunio a datblygu'r gwasanaethau yn eich ardal sy'n golygu fwyaf i chi a chenedlaethau'r dyfodol. 

Byddwch yn dod yn fwy gwydn a hunanddibynnol yn eich cymuned ac yn gweithio gyda'ch gilydd ar gyfer Powys fwy cynaliadwy. 

Staff 

Byddwch wrth wraidd newid ac yn cymryd rhan mewn cynllunio'r ffordd orau o ddarparu eich gwasanaeth chi i gyflawni'r heriau. Gall hyn gynnwys gweithio gyda gwasanaethau a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn y dyfodol yn gynaliadwy.  

Chi hefyd sy'n gwybod beth sy'n gweithio a lle y gellir gwella pethau. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da felly mae'n mae angen gweithio gyda'n gilydd i fod yn arloesol ac wrth wraidd newid. 

Bydd angen i'n gweithlu yn y dyfodol fod yn un hyblyg, yn ystwyth, yn ymatebol ac yn gallu addasu, ar y cyd ac yn unigol, er mwyn gallu nid yn unig wynebu'r heriau sy'n ein hwynebu ond ffynnu. Bydd ein ffocws ar gyflawni a datblygu canlyniadau gwych i bobl Powys. 

Rheolwyr ac Arweinwyr 

Byddwch yn arwain ac yn cefnogi'r Cyngor a'i wasanaethau drwy arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol. Ar yr un pryd byddwch yn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu datblygu i fod yn llwyddiannus yn eu rolau ac yn barod ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.  

Cynghorwyr - Cyngor Sir Powys a Chynghorwyr Tref a Chymuned 

Yn y dyfodol, byddwch yn cael eich annog i ymgymryd â rôl gyfoethocach wrth arwain eich cymuned - un sy'n canolbwyntio ar annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu cymdogaethau, eu hiechyd a'u lles, ac ysbrydoli pobl i wneud mwy i helpu yn eu cymuned leol.  

Nid yw'n bosibl gorbwysleisio rôl cynghorwyr wrth ddatblygu cymunedau cryfach a mwy gwydn, a bydd gennych rolau allweddol i'w chwarae, sef:  

  • Rheoli disgwyliadau cymunedau, drwy nodi pam mae pethau'n newid ac egluro pam y bydd pethau'n wahanol  
  • Uniaethu a chydweithio â gweithredwyr ac arweinwyr yn y gymuned i sicrhau eu bod yn cael eu hannog, eu cefnogi a'u cynorthwyo i chwarae rhan fwy amlwg  
  • Galluogi llif gwybodaeth a gwybodaeth ddwyffordd rhwng cymunedau a'r cyngor sir - nodi materion ar lawr gwlad a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gymunedau i sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan  
  • Gweithredu fel y sianel rhwng grwpiau cymunedol lleol a'r Cyngor i helpu i ddatblygu atebion lleol dan arweiniad y gymuned, i gryfhau gwytnwch a diwallu'r angen lleol. 

Gwasanaethau 

Byddwn yn darparu gwasanaethau o safon yn y ffordd fwyaf effeithlon a chost-effeithiol ond nid hyn yw'r sbardun dros newid. Bydd ein gwasanaethau yn werth da am arian ac yn cael eu darparu mewn ffordd sy'n ceisio lleihau ein hôl troed carbon a chanolbwyntio ar ganlyniadau gwell. 

Bydd gwasanaethau'n ymateb i newid ac yn flaengar eu dull wrth wella'n barhaus, boed hynny ar gyfer timau mewnol neu allanol. 

Bydd gweithio gyda'n gilydd yn un o gonglfeini ein dull newydd. Gwyddom nad oes gennym yr holl atebion a bydd gweithio gydag eraill yn ein galluogi i ryddhau potensial pobl ym Mhowys.