Beth ydyn ni'n ei olygu wrth 'Powys Gynaliadwy'?
Mae hyn yn golygu adolygu pa wasanaethau rydym yn eu darparu a sut y cânt eu darparu i ddiwallu'r anghenion cyfredol a'r canlyniadau gorau, gan sicrhau hefyd bod gennym atebion arloesol i ddarparu'r gwasanaethau gorau sydd wedi'u haddasu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae a wnelo Powys Gynaliadwy â gweithio gyda'n gilydd i:
- Cynllunio dyfodol i'n hawdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau cryfach, tecach a gwyrddach tra'n aros o fewn y gyllideb sydd ar gael.
- Adeiladu gwytnwch fel y gall datrysiadau a arweinir gan y gymuned helpu i gyflawni'r hyn sydd ei angen yn lleol.