Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwestiynau Cyffredin i Staff

What does this look like

1. Sut mae'r dull hwn yn wahanol i'r hyn rydym wedi'i wneud o'r blaen? 

Nid yw'r tafellu 'salami' blaenorol mewn toriadau cyllideb yn gynaliadwy yn y tymor hir. Rydym yn pwyso'r botwm 'ailosod' ac yn edrych ar bopeth gyda phersbectif newydd fel y gallwn lunio cyngor sy'n gynaliadwy yn y tymor hir.  

Mae hwn yn gyfle i ailedrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud erioed a gofyn a oes angen ei wneud, a yw'n effeithlon ac yn addas i'r diben, a ellid ei wneud yn wahanol (er enghraifft yn ddigidol), ac  a allwn ni weithio ar draws y sefydliad a chydag eraill mewn ffyrdd newydd. 

Wrth wneud hyn, byddwch yn cael eich galluogi'n llawn, bydd gennych ganiatâd llawn a bydd gennych y cymorth angenrheidiol i ddefnyddio dulliau newydd, chwalu seilos, herio'r norm a gwneud y newid sydd ei angen arnom i ddarparu gwasanaethau lleol o safon i bobl Powys. 

Yn dilyn y pandemig, rydym hefyd mewn sefyllfa wahanol o ran ein cymunedau ac fel sefydliad. Rydym yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud i drawsnewid a newid.  

 

2. Pam nad yw'r dull gweithredu presennol yn gallu gweithio? 

Nid yw'r status quo yn bosibl wrth i'r cyllid leihau. Hyd yn oed gyda chynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor o flwyddyn i flwyddyn, mae'r bwlch cyllido yn parhau i ehangu. Rydym yn arddel ymagwedd fwy hirdymor a chynaliadwy i ddarparu cyflogaeth o ansawdd da a chynaliadwy a sicrwydd meddwl.  

 

3. Beth sy'n digwydd yn fy maes gwasanaeth  i? 

Yn ogystal â diweddariadau a newyddion byddwn yn eu rhannu am y dull hwn yn gorfforaethol, bydd eich Penaethiaid Gwasanaeth a'ch Uwch Reolwyr yn siarad â chi am ymgorffori dull Powys Gynaliadwy yn eu meysydd a chydweithio â chi, gan edrych ar syniadau, newidiadau ac ati.  

 

4. Onid mater o arbedion ac effeithlonrwydd i reolwyr ei ddatrys yw hwn? 

Gall pob aelod o staff chwarae ei ran ac ni fydd Powys Gynaliadwy yn llwyddo oni bai y bydd pawb yn cymryd rhan. Mae timau rheoli yn edrych ar hyn yn strategol ar draws eu hardaloedd, ond gall pob aelod o staff chwarae rhan bwysig wrth nodi newid a meysydd i'w gwella. Mae pob punt yn cyfrif.  

Rydych chi'n rhan o'n cenhadaeth i sicrhau newid cadarnhaol i bobl Powys.  Rydym wedi profi y gallwn newid yn y gorffennol, mae a wnelo hyn â chyflymu'r broses. Rydyn ni eisiau gwneud hyn gyda'n gilydd - mae'n ymwneud â phawb yn cymryd rhan ac ymgorffori'r newid.  

 

5. Sut fydd Powys Gynaliadwy yn effeithio arnaf i a'm swydd? 

Rydym yn wynebu her ariannol sylweddol ac mae'n anochel y bydd rhywfaint o effaith ar gyllidebau staffio, swyddi a'r gwaith y gallech ei wneud. Fodd bynnag, rydym yn rhoi sicrwydd i'r holl staff mai colli swyddi fyddai'r dewis olaf un a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi hyn.  

Wrth gydnabod nifer y swyddi rydym yn recriwtio iddynt bob blwyddyn, rydym yn hyderus y bydd gennym gyfleoedd da i bawb sy'n dymuno gweithio i Bowys a helpu i drawsnewid y Cyngor.  

Byddwn yn cydweithio â chi i adeiladu gweithlu'r dyfodol sy'n wirioneddol hyblyg ac sy'n gallu cydweithio'n effeithiol ac yn effeithlon i ddarparu gwasanaethau a fydd yn gynaliadwy yn y dyfodol.  Pan fydd rolau swydd yn newid, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth angenrheidiol i allu cyflawni'r rôl honno'n llwyddiannus a'ch bod yn gallu gweithio'n hyblyg os yw hyn yn cefnogi'r ddarpariaeth.  

 

6.Sut y bydd staff yn cael eu cefnogi drwy unrhyw newid? 

Rydym yn cydnabod, pan fydd cyfnodau o newid, y gall hyn fod yn ansefydlog. Mae pob un ohonom yn ymateb i newid mewn ffyrdd gwahanol - bydd rhai pobl yn llawn cyffro, eraill yn bryderus, neu o bosibl yn ofidus. Nid oes ymateb cywir nac anghywir, a dyna pam y byddwn yn cefnogi staff trwy unrhyw broses newid. Mae'n bwysig nodi y byddwn yn gosod gweithwyr wrth wraidd newid fel y gallwch ein helpu i lunio'r modd y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu.  

Wrth ddatblygu Powys Gynaliadwy, byddwn yn sicrhau bod rheolwyr yn deall sut y gall newid effeithio ar bobl yn wahanol fel y gallant gefnogi aelodau o'r tîm orau. Os oes gennych unrhyw bryderon ar unrhyw adeg, siaradwch â'ch rheolwr llinell neu'ch Partner Busnes AD cyn gynted â phosibl.  

Bydd ein rheolwyr yn eich helpu i ddeall ac i ymwreiddio dull Powys Gynaliadwy, ac fel rhan ohono, rydym yn eich annog i helpu i lunio diwyg y dyfodol yn eich rhan chi o'r sefydliad. Dewch â'ch syniadau i'r cyfarfodydd a/neu'r trafodaethau a byddwch yn rhan o'r newid. Yn y pen draw, bydd a wnelo'r dyfodol â symud ymlaen gyda'n gilydd i sefyllfa gynaliadwy gadarnhaol iach, sy'n sicrhau canlyniadau gwych i bobl Powys cyn gynted â phosibl. 

 

7. Pa adran/cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am Powys Gynaliadwy? 

Bydd Powys Gynaliadwy'n cael ei harwain gan y Tîm Arwain Corfforaethol. Mae'r Tîm yn cynnwys y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr, y Swyddog Adran 151 (Pennaeth Cyllid), a Phennaeth y Swyddog Cyfreithiol a Monitro. Y Cabinet yw'r perchennog.  

 

8. Sut mae gwaith Powys Gynaliadwy'n effeithio ar flaenoriaethau newid hinsawdd a'r argyfwng natur? 

Cydnabyddwn fod gan y Cyngor strategaethau a chynlluniau neilltuol sy'n cyfarwyddo gwaith a fydd yn dylanwadu ar Bowys Gynaliadwy, a bydd angen ystyried y rhain fel rhan o'r dull hwn o weithio.  Mae'r Strategaeth Newid Hinsawdd a'r Cynllun Adfer Natur yn rhan o hyn. 

Wrth gynllunio ar gyfer Powys Gynaliadwy, bydd angen inni sicrhau er enghraifft, ein bod yn ystyried, fel rhan o'n cynlluniau, sut y gallwn leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030 a diogelu'r amgylchedd naturiol.