Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y comedïwr Kiri yn rhannu ei hanes Maethu

Comedian Kiri Pritchard-Mclean

19 Ebrill 2024

Comedian Kiri Pritchard-Mclean
Bydd Kiri Pritchard-McLean yn cychwyn ei thaith gomedi newydd o'r DU yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ddydd Sadwrn 4 Mai am 8 pm. Yn y sioe bydd yn siarad yn hollol agored am ei phrofiad fel gofalwr maeth.

Mae Kiri, y comedïwr Gymreig, wedi cael ychydig o flynyddoedd prysur.  Yn ogystal â llywyddu dros y sioe Live at the Apollo, arwain sioe banel Radio 4 Best Medicine a chychwyn Ysgol gomedi, mae hi hefyd wedi dechrau maethu plant. Ychydig iawn o bobl sy'n gwybod hyn. Yn ei sioe ddiweddaraf, bydd hi'n datgelu rhai o'i phrofiadau fel gofalwr maeth, ac yn rhannu straeon doniol ar y pwnc.  

Mae Kiri wedi rhoi cyfle i dîm Maethu Cymru Powys ymuno â hi yn yr Ŵyl Gomedi i ateb cwestiynau ynghylch dod yn ofalwr maeth. Bydd tîm Maethu Cymru Cyngor Sir Powys yn ymyl mynedfa'r Tabernacl yn Amgueddfa Gelf Gyfoes Machynlleth, cyn ac ar ôl y sioe. 

Yn ôl Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cyngor Sir Powys: "Gwerthfawrogwn wahoddiad Kiri i'r tîm, gan gynnwys ein gofalwyr maeth lleol, i ddod a rhannu gwybodaeth ynghylch dod yn ofalwr maeth. Os byddwch yn mynd i'r ŵyl, dewch draw am sgwrs gyda'r tîm i ddysgu rhagor a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych efallai.

"Mae arnom angen pobl gyda sgiliau, profiadau a ffyrdd o fyw amrywiol i alluogi ein plant i aros yn agos at eu cymunedau.  Mae yna gymaint o wahanol ffyrdd i gefnogi person ifanc, a buaswn yn annog unrhyw un sy'n ystyried maethu i gysylltu â ni."

Dywed Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: "Mae'n wych gweld Kiri, ein gofalwr maeth, yn hyrwyddo maethu mewn ffordd mor gadarnhaol ar ei thaith o gwmpas y DU. Bydd o gymorth mawr i godi ymwybyddiaeth am ofal maeth, ac yn herio canfyddiadau ffug o ran gofynion bod yn ofalwr maeth.

"Trwy glywed am daith maethu onest Kiri, ein gobaith yw y bydd pobl yn adnabod eu sgiliau a'u rhinweddau personol nhw ac ystyried holi am faethu". 

Meddai Kiri: "Rwy mor falch o gael lansio'r daith ym Machynlleth. Mae'r Ŵyl Gomedi wedi bod yn rhan mor enfawr o fy nhaith fel digrifwr a bydd yn hyfryd rhannu'r rhan nesaf hon o fy nhaith fel person hefyd. Rwy wrth fy modd mod i wedi gallu ychwanegu sioe arall ar ôl i arena enfawr Mach werthu allan felly rwy'n gwybod fy mod i'n cychwyn y daith gyda bang ym Machynlleth."

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth ym Mhowys ond nid ydych chi'n gallu dod i'r digwyddiad hwn, gellir dysgu rhagor ar-lein yma: www.powys.fosterwales.gov.wales neu drwy ffonio 0800 223 0627.