Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant Rheoli'n Ddiogel IOSH (4 Diwrnod)

Budd i'r Sefydliad

Mae Rheoli'n Ddiogel wedi'i lunio ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr mewn unrhyw sector, ac unrhyw sefydliad ar draws y byd. Ni fyddant yn troi'n arbenigwyr ar ddiogelwch dros nos - ond byddant yn dod i ddeall y camau ymarferol mae angen iddynt eu cymryd, ac yn cael y wybodaeth a'r arfau i fynd i'r afael â'r materion diogelwch ac iechyd maent yn gyfrifol amdanynt. Yn bwysig, mae Rheoli'n Ddiogel yn gwneud achos cryf dros sicrhau bod diogelwch ac iechyd yn rhan annatod o fusnes a gwaith rheoli dydd-i-ddydd.

Pwy Ddylai Fynychu?

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr sy'n gyfrifol am reoli adnoddau a risg mewn unrhyw sector, ac unrhyw sefydliad.

Amcanion Dysgu

  • Cymhwyso egwyddorion ac arferion rheoli sylfaenol at faterion diogelwch ac iechyd fel rhan o strategaeth rheoli diogelwch
  • Adnabod y peryglon i ddiogelwch ac iechyd sydd i'w cael yn y gweithle 
  • Cynnal a chofnodi asesiadau sylfaenol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â pheryglon yn y gweithle ac argymell mesurau rheoli addas
  • Sicrhau bod gwybodaeth, hyfforddiant a goruchwyliaeth digonol yn cael eu rhoi i weithwyr cyflog

Cynnwys y Cwrs

Mae Rheoli'n Ddiogel yn cwmpasu...

  • Asesu risgiau
  • Rheoli risgiau
  • Deall cyfrifoldebau
  • Deall peryglon
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau
  • Mesur perfformiad

Hyd

Dysgu Rhithiol

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth Arall

Mae'r asesiadau wedi'u dylunio i werthuso dealltwriaeth cyfranogwyr o iechyd a diogelwch sylfaenol. Mae'r asesiadau'n cynnwys papur ysgrifenedig 45 munud sy'n cynnwys 20 o gwestiynau aml-fformat, yn ogystal â phrosiect ymarferol ar asesu risg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tystysgrif Rheoli'n Ddiogel IOSH a gydnabyddir yn genedlaethol. Cyfnod Adnewyddu - 3 Blynedd (Cwrs Adnewyddu 1 Diwrnod)

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​