Mae Cyngor Sir Powys yn croesawu deisebau ac yn cydnabod eu bod yn fodd i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau fynegi eu safbwyntiau a’u pryderon ynghylch rhywbeth y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdano. Mae Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd y Cyngor [sydd wrthi’n cael ei datblygu] yn esbonio’r ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Deisebau yw un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o awgrymu sut y gallai rhywbeth newid. Gall deisebau:
Gellir cyflwyno deiseb yn un o’r ffyrdd canlynol:
Bydd gofynion y Cynllun Deiseb hwn yn gymwys i ba bynnag un o’r uchod a ddefnyddir. Sicrhewch eich bod chi’n dilyn y wybodaeth isod a’r wybodaeth a ddarparwyd drwy ddefnyddio'r linc Mwy o Wybodaeth
Os fyddwch chi’n creu a chyflwyno e-ddeiseb neu’n arwyddo e-ddeiseb, bydd gofyn eich bod chi’n darparu gwybodaeth bersonol. Mae gwybodaeth bersonol hefyd yn ofynnol pan fyddwch yn arwyddo deiseb bapur.
Y Cyngor sy’n rheoli data ar gyfer gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu ar gyfer e-ddeisebau a deisebau papur. Mae’r ddolen ganlynol at wefan y Cyngor mewn perthynas â Diogelu Data a Phreifatrwydd
Yn dilyn cyfnod o 21 dydd ar ôl i’r Cyngor ymateb yn ffurfiol, caiff deiseb bapur ei dileu, oni bai yn ystod y cyfnod hwnnw, bod trefnydd y ddeiseb wedi gofyn am adolygiad. Fodd bynnag, pe byddech am i’ch enw gael ei gymryd i ffwrdd cyn yr adeg hon, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost yn Swyddog Diogelu Data, a ffonio 01597 826400