Ysgol yr Eglwys Nghymru Llangedwyn
Mae Cyngor Sir Powys wedi cynnal y broses statudol ar gynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn.
Cyhoeddwyd Rhybudd Statudol mewn perthynas â'r Cynnig hwn ar 10 Ionawr 2024, a daeth y Cyfnod Gwrthwynebu i ben ar y 7 Chwefror 2024.
Mae'r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Gwrthwynebiadau yn amlinellu'r Gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Gwrthwynebu. Mae'r Adroddiad Gwrthwynebiadau ar gael isod.
Ystyriodd y Cabinet yr Adroddiad Gwrthwynebiadau ar 27 Chwefror 2024, ac fe wnaethant gytuno i fwrw ymlaen gyda'r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn o 31 Awst 2024, gyda disgyblion i drosglwyddo i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain. Mae llythyr yn amlinellu penderfyniad y Cabinet ar gael isod:
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma