Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trawsnewid Addysg

Wedi'i lansio'n wreiddiol yn Ebrill 2020, mae'r Cyngor wedi diweddaru ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg, ac wedi cyhoeddi Rhaglen Waith ar gyfer Ton 2 y rhaglen, a fydd yn rhedeg o 2022 i 2027.

Mae'r strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid addysg ym Mhowys yn cynnwys gweledigaeth ac egwyddorion arweiniol, ac mae'n gosod blaenoriaethau'r cyngor dros y deng mlynedd nesaf, a fydd yn canolbwyntiio ar bedwar nod strategol:

  • Gwella hawl a phrofiad y dysgwr
  • Gwella hawl a phrofiad dysgwyr ol-16
  • Gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr holl gyfnodau allweddol
  • Gwella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr gydag anghenion addysg arbennig / anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i raglen buddsoddi cyfalaf er mwyn sicrhau bod adeiladau cynaliadwy amgylcheddol, ysbrydoledig ar gael i ysgolion ym Mhowys sy'n gallu darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau i'r gymuned ehangach.

Mae copiau o'r Strategaeth a'r Rhaglen Waith ar gael trwy ddilyn y linc isod i'r dudalen 'Strategaeth'.

Ymgynghoriadau Cyfredol