Sut rydym yn cyrraedd yno?
Rydym am weithio gyda chi i ddysgu mwy am yr hyn sydd bwysicaf i chi a'ch teulu, yr hyn sy'n bwysig i chi nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn edrych yn ofalus ar yr hyn rydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud.
Byddwn yn rhoi tri cham ar waith i gyrraedd lle mae angen i ni fod:
1. Darganfod:Deall y sefyllfa bresennol. Gan gynnwys edrych ar ddata, nodi bylchau o fewn hyn, a chynnal ymchwil bellach yn ôl yr angen.
2. Dylunio a phrofi:gweithio gyda'n gilydd i ddylunio opsiynau a'u profi gyda chi.
3. Cyflawni a gwella: gwneud y newidiadau a gwirio ein bod yn gwneud y dewisiadau cywir ar hyd y ffordd