Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut rydym yn cyrraedd yno?

How will we get there
Close Sut rydyn ni'n cyrraedd yno?

Bydd yr ymagwedd Powys Gynaliadwy yn defnyddio'r egwyddorion canlynol i gynllunio gwasanaethau'r dyfodol:

  • Bod yn feddwl agored a cheisio cael atebion arloesol, gan ddefnyddio'r holl arbenigedd sydd ar gael
  • Cyflenwi'r deilliannau gorau posibl drwy drawsnewid i ddarparu gwasanaethau o well ansawdd
  • Defnyddio tystiolaeth - er mwyn deall angen yn well a modelu galw'r dyfodol, os nad ydym ni'n cael canlyniadau yna fe ddylem newid
  • Proses barhaus o ddysgu ac addasu i fodloni anghenion cyfredol a hir dymor yn gynaliadwy
  • Ymgysylltu'n gynnar gyda phobl wrth gytuno, dylunio a chyflenwi ymagweddau fel ein bod ni'n gwrando, deall, myfyrio a rhoi adborth
  • Mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol: pam ydym ni'n gwneud yr hyn a wnawn?
  • Ymagwedd strategol system gyfan, gyda phartneriaid, cymunedau a phobl Powys
  • Cyflenwi deilliannau sy'n fforddiadwy neu'n costio dim

Cynllunio Sy'n Seiliedig ar Le

Rydym ni'n archwilio a ellir defnyddio 'cynllunio sy'n seiliedig ar le' i ail-fodelu gwasanaethau llywodraeth leol yn y dyfodol.

Mae cynllunio sy'n seiliedig ar le yn rhannu'r sir i ardaloedd y gellir eu rheoli ar gyfer cynllunio gwasanaeth ac i weithio gyda chymunedau a phartneriaid.

Y mae'n fodd i ni wneud y canlynol mewn ffordd strategol:

  • Adolygu o bley r ydym ni'n darparu gwasanaethau
  • Sicrhau cydraddoldeb o ran darpariaeth ledled y sir
  • Cynllunio ein gwasanaethau mewn modd clir a chyson a lleihau costau

Y mae hefyd yn ein helpu ni i weithio gyda'n partneriaid i ehangu'r ymagwedd newydd hon ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ehangach ac â phartneriaid trydydd sector (i leihau dyblygu ymdrech a lleihau costau)

Sut allai hyn weithio a beth sy'n cael ei archwilio?

Rydym ni bob amser wedi defnyddio "model bro" ym Mhowys. Ond rydym ni'n archwilio a allai hyn weithio fel 4 ardal graidd ac 13 ardal bro.

Mae'r 4 ardal graidd wedi eu lleoli o gwmpas trefi y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod ac Aberhonddu ac maen nhw'n darparu rhaniad cyfartal o ran y boblogaeth.

O dan egwyddorion cynllunio'n seiliedig ar le:

  • Byddwn ni'n darparu hyb ym mhob un o'r 4 ardal graidd hyn - dim ond os oes yna achos busnes a gymeradwywyd i'w gefnogi y caiff unrhyw beth arall ei ddarparu
  • Byddwn ni'n defnyddio ysgolion ac asedau cymunedol eraill pryd bynnag y gallwn ni ar gyfer darparu atebion a gwasanaethau sy'n seiliedig ar y gymuned
  • Gall amseroedd teithio fod hyd at 1 awr i'ch hyb agosaf (hyd yn oed os ydych chi'n blentyn)
  • Rhaid i ddarpariaeth gael cefnogaeth ddigidol
  • Rhaid i drafnidiaeth Gyhoeddus a Chymunedol alinio pob bro â'r hyb

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu