Egwyddorion allweddol
Mae'r gwaith hwn yn cael ei lywio gan yr egwyddorion canlynol:
- Canlyniadau a thrawsnewid, nid dim ond addasu gwasanaethau
- Ymgysylltu: ymgysylltu'n gynnar â phobl wrth gytuno, dylunio a chyflawni canlyniadau
- Y cwestiwn sylfaenol: Pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud?
- Bod â barn strategol sir gyfan, nid y Cyngor yn unig
- Arloesi: bod â meddwl agored a chwilio am atebion arloesol, gan ddefnyddio'r holl arbenigedd sydd ar gael
- Defnyddio tystiolaeth - os nad oes canlyniadau i'w gweld, yna dylem newid
- Proses barhaus i ddiwallu anghenion presennol a hirdymor mewn modd cynaliadwy
- Cyflawni canlyniadau am gost is neu ddim cost
- Cofleidio technoleg ddigidol i'n helpu i gysylltu'n well â chi a darparu gwasanaethau hygyrch, hawdd eu defnyddio ar-lein a chymorth sy'n gosod eich anghenion chi yn gyntaf.
- Byddwn yn helpu i hyrwyddo creu cymunedau cryf, sy'n cefnogi ei gilydd yn lleol.