Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhagor o gefnogaeth i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y cyngor

People working in a warehouse

18 Ebrill 2024

People working in a warehouse
Mae cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau i Gyngor Sir Powys, sy'n werth amcangyfrif o £250 miliwn y flwyddyn, yn gallu cael mynediad bellach at ragor o gefnogaeth a chyngor i wneud hynny'n effeithiol.

Mae'r cyngor wedi diweddaru ei wefan am y pwnc i ddarparu rhagor o wybodaeth am ble i ddod o hyd i gyfleoedd tendro, gofynion cyfreithiol newydd a'r hyfforddiant cysylltiedig, a ffyrdd o dorri ôl-troed carbon eich busnes.

Mae'r we-dudalen Caffael a Chytundebau yn rhoi dolen hefyd at Strategaeth Gaffael y cyngor, a'i Gofrestr Contractau a gwybodaeth am ddiogelu.

Dywedodd Jane Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y cyngor: "Mae yna lawer o gyfleoedd i fusnesau ddarparu amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau i'r cyngor bob blwyddyn, i'n helpu ni i ddiwallu anghenion pobl Powys. Rydym ni am eu helpu nhw i wneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl fel ein bod ni'n gallu gwario'r arian a dderbyniwn yn gyfrifol ac mewn ffordd sy'n ein helpu ni i gyflawni ein nodau ein hunain sef creu Powys gryfach, decach a gwyrddach."

Am gyngor ychwanegol ynghylch cyflenwi i Gyngor Sir Powys, e-bostiwch: commercialservices@powys.gov.uk. Fodd bynnag, dylai ymholiadau tendro gael eu gwneud drwy'r llwybrau negeseuo sydd ar gael ar GwerthwchiGymru ac eDendroCymru.