Caffael a chytundebau
Mae Cyngor Sir Powys yn gwario tua £250 miliwn y flwyddyn ar amrywiaeth o nwyddau, gwasanaethau a gwaith i gefnogi cynllun corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach y sefydliad: https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i wario'r arian hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cyflawni ei amcanion a'r canlyniadau y mae ei breswylwyr yn eu dymuno.
Strategaeth Chaffael
Mae Strategaeth Gaffael 2022 - 2025 (PDF) [3MB] yn darparu'r fframwaith i'r Cyngor sicrhau gwerth a chyfalaf cymdeithasol o'i holl gontractau masnachol.
Tendro
- Mae Sell2Powys yn darparu mynediad at gyfleoedd tendro gan Gyngor Sir Powys a llawer o awdurdodau contractio cyhoeddus eraill yng Nghymru ar gyfer gofynion sy'n uwch na £50,000. Bydd cofrestru gyda Sell2Wales yn eich galluogi i dderbyn hysbysiadau am gyfleoedd a gyhoeddir yn eich maes busnes.
- eTenderWales yw'r platfform sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer proses ymgeisio am gyfleoedd tendro, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi'ch cofrestru gydag eTenderWales er mwyn gwneud cais.
Cofrestr Contractau
- Rhestr holl gontractau (ZIP) [78KB] Cyngor Sir Powys
Diogelu
Disgwylir i ddarparwyr ddarparu hyfforddiant diogelu i'w weithwyr yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddi Diogelu Cenedlaethol, a ddatblygwyd ar ran pob asiantaeth gan Gofal Cymdeithasol Cymru. https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/fframwaith-hyfforddi-dysgu-a-datblygu-diogelu-cenedlaethol
Sero Net
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i sicrhau Sero Net ac wedi cytuno ar Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Natur. Mae ein cadwyn gyflenwi yn chwarae rôl allweddol i wireddu ein nodau strategol, ac felly mae cymorth ar gael trwy'r canlynol.
- Cynlluniau Lleihau Carbon: Yn unol â gofynion Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN06/21, mae 'n rhaid i gyflenwyr darparu Cynllun Lleihau Carbon (CRP) safonol fel rhan o gam dethol y broses o gaffael contractau cyhoeddus gwerth £5 miliwn neu fwy. Y cynllun lleihau carbon (CRP) a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU yw'r safon i'w ddefnyddio gan gyflenwyr wrth iddynt wneud cais ar gyfer contractau Cyngor Sir Powys. Hefyd, argymhellir bod cyflenwyr yn mynychu'r Hyfforddiant byw ar gynllun lleihau carbon cyflenwyr newydd, a ddarperir gan Wasanaethau Masnachol y Goron i'w cynorthwyo i lenwi eu CRP.
- Porth Cynaliadwyedd Cadwyn Cyflenwi: I gefnogi ein cyflenwyr bellach, mae Cyngor Sir Powys newydd greu Porth Cadwyn Gyflenwi, Porth Cynaliadwyedd Cadwyn Gyflenwi - Cyngor Sir Powys. Ein nod yw creu cadwyn gyflenwi gyda gwybodaeth a sgiliau credadwy ynglŷn â datgarboneiddio a newid hinsawdd. Cynlluniwyd y porth hwn yn wreiddiol i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol ym Mhowys gyda'u cynlluniau cynaliadwyedd a lleihau carbon, er y bydd hwn yn cael ei ehangu i gefnogi pob cyflenwr ymhen 2025.
Arweiniad a Chymorth
- Gwerthu i Gyngor Sir Powys (PDF) [5MB]
- Gwerthu i Bowys – Camgymeriadau Tendro (PDF) [300KB]
- Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth busnes i'r rhai sy'n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes, gan gynnwys cyngor tendro.
- Ceisiadau ac olrhain DBS - Powys
Diwygiadau caffael y DU
Derbyniodd Deddf Caffael newydd 2023 Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023 a disgwylir i ragor o is-ddeddfwriaeth gael ei chymeradwyo yn gynnar yn 2024. Disgwylir i'r rheoliadau caffael newydd fynd yn fyw yn Hydref 2024 a disgwylir i raglen fanwl o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, a ddarperir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ddechrau yng Ngwanwyn 2024. Anogir cyflenwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau hyn drwy Drawsnewid Caffael Cyhoeddus - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyswllt
Dim ond trwy lwybrau negeseuon y prosiect ar eTenderWales y dylid gwneud unrhyw gyswllt sy'n berthnasol i brosiect tendro penodol. Am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â chyfeiriad e-bost y tîm - commercialservices@powys.gov.uk