Ysgol Calon y Dderwen ac Ysgol Treowen G.G.
Fe wnaeth yr ymgynghoriad ar gynigion y Cyngor ar gyfer Ysgol Calon y Dderwen ac Ysgol G.G. Treowen orffen ar 26 Chwefror 2024.
Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys ar gynigion ar gyfer Ysgol Calon y Dderwen ac Ysgol Gynradd Gymunedol Treowen, mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ac yn darparu ymateb y Cyngor i'r materion hynny.
Disgwylir y bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ac yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynigion ai peidio ar 7 Mai 2024.
Adroddiad Ymgynghori
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma