Ysgol Calon y Dderwen ac Ysgol Treowen G.G.
Mae Cyngor Sir Powys wedi cynnal y broses statudol i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Treowen ac ehangu Ysgol Calon y Dderwen i gynnwys hen safle Ysgol Gynradd Gymunedol Treowen, cyn symud i adeilad Newydd ar safle Ysgol Calon y Dderwen yn y dyfodol.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol mewn perthynas â'r cynnig hwn ar 9 Mai 2024, a daeth y Cyfnod Gwrthwynebu i ben ar 6 Mehefin 2024.
Mae'r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Gwrthwynebiadau yn amlinellu'r Gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Gwrthwynebu. Mae'r Adroddiad Gwrthwynebiadau ar gael isod:
Fe wnaeth Cabinet y Cyngor ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebiadau ar 9 Gorffennaf 2024, a chytunwyd i fwrw ymlaen â'r cynnig.
Mae llythyr penderfyniad yn amlinellu penderfyniad y Cabinet ar gael isod:
Dilynwch ni ymlaen: Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma