Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i Gyngor Sir Powys rannu adroddiad sy'n dangos sut mae wedi hybu lles trigolion ac i fod yn atebol o ran cyflawni safonau llesiant.

Bob blwyddyn mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwblhau'r adroddiad hwn. Enw'r adroddiad blaenorol oedd ACRF Gofal Cymdeithasol (Fframwaith Adroddiadau Blynyddol y Cynghorau).

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2022-23 (PDF) [1MB]

Gallwch ddod o hyd i adroddiadau blaenorol yma: Adroddiadau blaenorol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r adroddiad yn nodi taith wella'r Awdurdod Lleol o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol i bobl ym Mhowys gan gynnwys y rheiny sy'n chwilio am wybodaeth am wasanaethau, ceisiadau am gyngor a chymorth, neu'r rheiny sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Mae'n amlinellu'r hyn y dywedon ni ein bod yn mynd i'w wneud, yr hyn sydd wedi'i gyflawni a'r gwaith sydd ar fynd ac yn y dyfodol i hyrwyddo canlyniadau lles da i drigolion Powys.

Darperir yr adroddiad hwn i Gynghorwyr Sir Powys ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a hoffwn gael eich adborth chi.

I roi unrhyw adborth neu i ofyn cwestiwn am yr adroddiad hwn, neu os oes gennych ganmoliaeth, cysylltwch â socialservicesfeedback@powys.gov.uk / 01597 827515

Os oes gennych gwyn am y gwasanaeth ewch i'n broses gwyno.