A ydych chi angen help i ddod o hyd i waith a dechrau gweithio?
Sut y gallwn ni helpu?
Mae'r Rhaglen 'Cymunedau am Waith a Mwy' (CfW+) yn cefnogi pobl i ddechrau gweithio.
Mae Fentor Cyflogaeth ledled Powys yn darparu cymorth mentora 1-1 wedi'i deilwra i anghenion pob unigolyn. Gallwn ddarparu cymorth gyda:
Sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys help gydag ysgrifennu eich CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
Meithrin hyder
Dod o hyd i leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
Dod o hyd i gyfleoedd gwaith addas
Cyllid ar gyfer hyfforddiant ar gyfer cymwysterau penodol fel y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), Hylendid Bwyd, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA)
Pwy allwn ni ei gefnogi? Unrhyw un sy'n:
Byw ym Mhowys dros 16 oed
Unigolion sydd wedi'u cofrestru'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar
Ydych chi'n Gyflogwr?
Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr ym Mhowys a gallwn gynnig cymorth recriwtio drwy baru ein cleientiaid â manyleb eich swydd.
Gallwn helpu i drafod a sicrhau cyfleoedd gwirfoddol neu gyflogaeth ar draws ystod eang o feysydd galwedigaethol.