Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweithwyr Gofal Preswyl

Ein Cartref 

Mewn partneriaeth, mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn agor Cartref Therapiwtig i Blant, unigryw, yn ein cymuned leol, ac mae angen eich cymorth arnom.   

Lleolir ein cartref yng nghefn gwlad fendigedig Gogledd Powys, ddim yn bell o bentref tawel Llanbrynmair. Cartref tair llofft yw, gyda digonedd o le, sy'n cynnig llefydd cysgu ar gyfer staff, ystafell therapi, lolfa glyd, ac ardal byw a bwyta sy'n agor allan i ardd fawr. 

Bydd ein cartref yn cefnogi 3 o bobl ifanc (11-18 oed) gydag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol cymhleth, oherwydd eu profiadau bywyd cynnar.  

Fel aelod o dîm penodedig, byddwch yn creu cartref diogel er mwyn gwella sefydlogrwydd a chapasiti rhianta i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth er mwyn gwireddu canlyniadau cadarnhaol, gwella eu cyfleoedd bywyd a'u llesiant cymdeithasol.  Bydd y cyfle unigryw hwn ym Mhowys yn ein galluogi i gefnogi plant yn eu cymunedau eu hunain, fel rhan o'n gweledigaeth i alluogi pobl i aros yn nes at eu cartrefi.  

Ymunwch â'r tîm

Rydym yn chwilio amReolwr Cofrestredig, Dirprwy Reolwr Gofal ac Uwch Weithiwr Gofal Preswyl. Hefyd mae cyfleoedd ar gyfer unrhyw un ar ddechrau eu gyrfa, sydd am weithio tuag at gymhwyster QCF/ NVQ Diploma Lefel 3, trwy dalu'r costau'n llawn. Y cwbl sydd ei angen yw profiad o weithio gyda phobl ifanc, ac mae'n rhaid ichi fod dros 22 oed.

Gellir dysgu rhagor am ein holl swyddi gwag ar y dudalen swyddi gwag.

Swyddi a hyfforddiant Swyddi a hyfforddiant

Gweithio yn ein Gwasanaethau Gweithio yn ein Gwasanaethau