Hysbysiad Preifatrwydd Derbyn Disgyblion i Ysgolion
Mae Cyngor Sir Powys yn prosesu'r data personol a roddir yn y ffurflen gais hon i'w alluogi i ystyried a gweithredu'r cais hwn.
Mae Cyngor Sir Powys yn prosesu data personol a data categori arbennig (sensitif) er mwyn iddo gyflawni'r tasgau y gofynnir ohono i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion, ac addysg a lles disgyblion.
Bydd y wybodaeth a roddir yn cael ei rhannu â'r gweithwyr proffesiynol hynny y mae angen iddynt gynorthwyo'r proses derbyniadau, megis cyfarwyddiadau eraill o fewn yr Awdurdod, ysgolion, awdurdodau lleol eraill, a byrddau iechyd lleol, fel y bo'r angen.
Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei chadw gan y Cyngor am bum mlynedd ar hugain o ddyddiad geni'r plentyn.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Cyngor yn prosesu data personol, gan gynnwys yr hawliau sydd gan unigolion y bydd data'n cyfeirio atynt o wefan Cyngor Sir Powys.
Os bydd gennych ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau trwy admissions@powys.gov.uk Pe ddymunech weld eich data, neu gwyno ynghylch sut mae'ch data personol yn cael ei brosesu, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn Neuadd y Sir, Cyngor Sir Powys, Llandrindod, LD1 5LG neu information.compliance@powys.gov.uk