Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Ysgolion

Mae Cyngor Sir Powys yn prosesu data personol a data categori arbennig (sensitif) er mwyn iddo gyflawni'r tasgau hynny y gofynnir iddo eu gwneud wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys derbyniadau ysgolion, addysg a lles disgyblion gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, Gwasanaethau Ieuenctid a Chefnogi Llywodraethwyr.

Mae'r wybodaeth a roddir gan unigolion ac o ffynonellau eraill, megis ysgolion a byrddau iechyd lleol, yn cael ei rhannu â'r gweithwyr proffesiynol hynny y mae gofyn iddynt gynorthwyo i gyflawni'r gwasanaethau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys adrannau eraill y cyngor neu gyfarwyddiaethau o fewn yr Awdurdod, ysgolion, awdurdodau lleol eraill, a byrddau iechyd lleol, yn ôl yr angen. Mae gwybodaeth bersonol benodol yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion monitro ac adrodd statudol. 

Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei chadw gan y Cyngor am bum mlynedd ar hugain o ddyddiad geni'r plentyn.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Cyngor yn prosesu data personol, gan gynnwys yr hawliau sydd gan unigolion y bydd data'n cyfeirio atynt o wefan Cyngor Sir Powys. I gael gwybodaeth am sut mae ysgolion yn prosesu data personol, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol.

Os bydd gennych ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ysgolion trwy education@powys.gov.uk Pe ddymunech weld eich data, neu gwyno ynghylch sut mae'ch data personol yn cael ei brosesu, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn Neuadd y Sir, Cyngor Sir Powys, Llandrindod, LD1 5LG neu information.compliance@powys.gov.uk