Beth mae'r Cyngor yn ei wneud ar Newid Hinsawdd?
Roedd Cyngor Sir Powys wedi datgan argyfwng hinsawdd ar 24 Medi 2020. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i ostwng ei allyriadau carbon i sero-net, yn unol â tharged sector cyhoeddus Cymru sef 2030.
- Fel partner ar Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Powys, mae'r Cyngor yn cyfrannu tuag at lunio Strategaeth Garbon Bositif i'r sir gyfan.
- Cydlynu'r gwaith o baratoi Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru (PDF) [2MB] ar ran Tyfu Canolbarth Cymru.
- Gwella gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu.
- Gosod pwyntiau Gwefru EV yn ein cymunedau.
- Gosod paneli solar yn ein hysgolion ac adeiladau.
- Adeiladu cartrefi ac ysgolion ynni effeithiol. Darparu seilwaith newydd i annog seiclo a cherdded, a'r defnydd o gludiant cyhoeddus.
Gweld Strategaeth a Gweledigaeth Hinsawdd y Barcud Coch Powys iach, gynaliadwy a phositif-net 2021 - 2030
Strategaeth ar gyfer Newid Hinsawdd (PDF) [4MB]
Trosolwg Newid Hinsawdd Cyngor Sir Powys ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned (PDF) [2MB]