Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio yn yr etholiadau

Ydych chi erioed wedi meddwl am gymryd rhan adeg yr etholiad drwy weithio mewn gorsaf bleidleisio neu yn y cyfrif? Mae'r Gwasanaethau Etholiadol bob amser yn ceisio recriwtio staff ymroddedig a dynamig i lenwi unrhyw swyddi gwag, a byddem yn falch o glywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan.

Gweithio mewn Gorsaf Bleidleisio

Mae staff Gorsaf Bleidleisio yn cael eu penodi gan y Swyddog Canlyniadau ac maent yn gyfrifol am y papurau pleidleisio, gan sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar gyfer pleidleisio yn cael eu dilyn. Ar ddiwrnod yr etholiad, mae'n rhaid i staff gorsaf bleidleisio fod ar ddyletswydd o 6:45am tan ychydig ar ôl 10pm. Bydd yn ofynnol i holl staff a gyflogir i weithio mewn gorsaf bleidleisio fynychu sesiwn hyfforddiant cyn eu penodiad. 

Gweithio yn y Cyfrif

Mae cynorthwywyr cyfrif yn cael eu penodi gan y Swyddog Canlyniadau i wirio a chyfrif y pleidleisiau yn y gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â'r pleidleisiau post a dderbyniwyd yn y cyfnod hyd at y diwrnod pleidleisio. Gall y gwirio a chyfrif ddigwydd ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau (10pm ar y diwrnod pleidleisio), neu'r bore canlynol.  Cynhelir y cyfrif yng Maes Sioe Brenhinol Cymru, Llanelwedd fel arfer. 

Pwy sy'n Gymwys

I weithio yn yr etholiadau, mae'n rhaid i chi;

  • fod o leiaf 18 oed
  • fod â'r hawl i weithio yn y DU (yn unol â'r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996)
  • beidio cael eich cyflogi na pherthyn i ymgeisydd posibl
  • beidio gweithio ar ran ymgeisydd na phlaid gwleidyddol i weithio fel staff pleidleisio na chyfrif
  • cytuno i weithio mwy na'r oriau gwaith arferol a ddarperir gan y gyfarwyddeb oriau gwaith

Sut i wneud cais

Gallwch ymgeisio ar-lein i weithio mewn etholiadau - nid ydym yn derbyn CV. I gwblhau'r ffurflen ar-lein byddwch angen cyfeiriad e-bost dilys.

Gwneud cais ar-lein i weithio yn yr etholiadau Gwneud cais ar-lein i weithio yn yr etholiadau

Ar ôl ymgeisio i weithio yn yr etholiadau

Byddwn yn ystyried profiad, argaeledd a lle mae unigolyn yn byw wrth gynnig swydd.

Mae pob penodiad dros dro ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau (nid Cyngor Sir Powys).

Nid yw cael eich penodi i weithio mewn etholiad yn sicrhau gwaith mewn etholiadau yn y dyfodol.  Mae yna fwy o geisiadau na swyddi yn aml ac os na fydd rhywun yn cael cynnig swydd yna byddant yn cael eu hychwanegu at ein rhestr staffio i lenwi swyddi os oes yna swyddi gwag.   

Ni fyddwn yn gallu ymateb i bob cais. 

Rhagor o wybodaeth

Mae swyddi Etholiad Achlysurol yn cael eu cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau ac nid gan Gyngor Sir Powys. Nid yw telerau ac amodau gweithwyr Cyngor Sir Powys a mynediad i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn berthnasol i swyddi etholiadau achlysurol.

Mae swyddi etholiad yn cael eu talu ar sail Talu Wrth Ennill (PAYE), sy'n golygu y gellir tynnu treth o enillion. Os nad ydych yn drethdalwr byddwch yn gyfrifol am hawlio'r dreth yn ôl gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Fodd bynnag, mae ffioedd a delir ar gyfer gwaith etholiad yn rhydd o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol.

Gall unrhyw waith a wneir gennych effeithio ar;

  • Unrhyw bensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau a dderbynnir - byddwch yn gyfrifol am hysbysu eich darparwr pensiwn neu fudd-dal am eich enillion
  • faint o dreth sy'n ofynnol i chi ei dalu - byddwch yn gyfrifol am hysbysu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am eich enillion.

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma