Sut brofiad yw hi?
Yr hyn mae dysgwyr yn ei ddweud
"Rwy'n falch iawn fy mod wedi fy ngosod mewn addysg Gymraeg. Rwy'n hapus iawn i gael ail iaith, yn enwedig un sy'n agor diwylliant mor amrywiol. Mae wedi rhoi persbectif gwahanol i mi ar ddiwylliant ac iaith."
"Mae gallu siarad Cymraeg wedi newid fy mywyd yn llwyr. Mae wedi rhoi mynediad imi at wahanol rannau o'r diwylliant a fyddai fel arall wedi cael eu cau i mi. Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn o allu gweld y byd mewn dwy ffordd wahanol. Alla i ddim dychmygu (a dydw i ddim eisiau!) bywyd hebddi."
Yr hyn y mae rhieni'n ei ddweud
"Mae bod â'r Gymraeg yn y teulu wedi bod yn brofiad sy'n cyfoethogi. Mae wedi ein gwneud yn fwy cartrefol yn y gymuned leol ac wedi agor drws i ni i lawer o ddigwyddiadau a chynulliadau na fyddem wedi'u profi fel arall. Mae'n bendant wedi ychwanegu at ein bywydau, ac nid yw wedi diosg unrhyw beth oddi arnom, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud y penderfyniad."
"Fel rhieni Saesneg ein hiaith, byddem yn argymell addysg cyfrwng Cymraeg yn llawn ar gyfer unrhyw blentyn. Mae ein profiad wedi bod yn gwbl gadarnhaol o'r cyfnod cyn-ysgol, drwy'r ysgol gynradd a'r ysgol Uwchradd erbyn hyn. Mae'r staff wedi gwneud pob ymdrech i gefnogi ein plentyn, yn ogystal â'n cefnogi ni fel rhieni. Gobeithiwn y bydd ein merch yn parhau i ddefnyddio ei sgiliau Cymraeg yn ei bywyd fel oedolyn hefyd. Teimlwn nad oes dim byd i'w golli a phopeth i'w ennill a gobeithiwn y bydd eich plentyn yn elwa o addysg cyfrwng Cymraeg ag y mae ein plentyn ni."