Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Prisiau galwadau

Rhifau 0345

Cost galwadau o linell dir fel arfer yw hyd at 16c y funud.  Bydd galwadau o ffonau symudol yn costio rhwng 3c a 65c y funud yn dibynnu ar eich pecyn.

Rhifau 01 a 02  - rhifau daearyddol

Mae'r rhifau hyn yn ymwneud â lleoliadau penodol yn y DU sy'n cael eu defnyddio gan gartrefi a busnesau.

Cost galwadau o linell dir fel arfer yw hyd at 16c y funud.  Bydd galwadau o ffonau symudol yn costio rhwng 3c a 65c y funud yn dibynnu ar eich pecyn.

07 - rhifau ffôn symudol

Bydd galwadau i ffonau symudol yn costio rhwng 10c a 20c y funud o linell dir, ac fel arfer nid ydynt yn cael eu cynnwys mewn pecynnau galwadau am ddim.  Bydd costau galwadau o ffonau symudol yn amrywio yn ôl y cynllun sydd gennych.

Mae dwy ran i'r gost o alw rhifau 0845

Y gost mynediad sy'n mynd i'ch cwmni ffôn, a chost gwasanaeth a bennir gan y sefydliad rydych yn ei alw.  Nid yw Cyngor Sir Powys yn codi rhagor am alw unrhyw un o'n rhifau ni.

Gallwch wybod beth yw cost mynediad y rhif hwn - sef gweddill gost yr alwad - gan eich cwmni ffôn.